So dani 'di gael oysters o Grand Central Station - rhai da odda nhw fyd, OND ti methu cael Tomos Parry yn New York efo barbeciw ar roof top heb iddo fo cwcio oysters i fi…BRAT STYLE!
Cynhwysion:
Wystrys
Bara lawr
Ciwcymbr
Rhuddygl
Siampên organig
Dŵr
Siwgr
Stoc pysgod
Olew olewydd
Sudd lemon
Finegr
Dil ffres
Dull:
Yn gyntaf mae angen barbeciwio'r ciwcymbr. Dw i'n rhoi olive oil a halen arno fo cyn ei roi o ar y tân.
Mae angen charr da ar y ciwcymbr cyn ei biclo.
I greu'r picl, dw i'n cymysgu finegr, siampên organig, dŵr a siwgr, cyn ei roi o ar y tân i gynhesu.
Tra ei fod yn cynhesu, torrwch y ciwcymbr sydd wedi charrio gan adael y bits lyfli 'na sydd wedi llosgi am fwy o flas.
Unwaith mae'r juice picl yn gynnes, dw i'n ychwanegu bara lawr a dil ffres.
Wedyn, dwi'n arllwys y juice picl dros y ciwcymbr sydd wedi ei dorri.
Dw i'n rhoi y wystrys ar y tân efo cymysgedd o fish stock, olew olewydd, lemon a finegr.
Unwaith maen nhw'n byblo mae'r wystrys yn barod.
I orffen, dwi'n ychwanegu sudd lemon, picl ciwcymbr, gratiad o horseradish a dil ffres.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?