Dewisiadau
Cynnwys
Hafan
Pori
Adloniant
Chwaraeon
Cerddoriaeth
Drama
Ffeithiol
Cyw
Stwnsh
Gwylio
Amserlenni
English
Menu
Hafan Ffeithiol
Gwylio ar S4C Clic
Facebook
Instagram
X
Cylchlythyr
Archif
Pice Nadolig
Cynhwysion
250g Blawd codi
125g Menyn
Pinsied o Halen
75g Siwgwr
100g Cnau Cyll
100g Llugaeron wedi eu sychu
Croen 1 Oren
1 Wy
I'w Gweini
Siwgr Eisin
Llugaeron ffres
Rhosmari
Dull
Cymysgwch y blawd codi gyda'r menyn, halen, siwgr, cnau cyll, llugaeron a chroen 1 oren.
Dewch a'r gymysgedd at ei gilydd a'i friwsioni.
Curwch 1 wy a'i ychwanegu at y gymysgedd.
Defnyddiwch ychydig o lefrith os nad ydi'r toes yn ffurfio.
Rholiwch y toes i dewder pice a'u torri gyda thorrwr bisgedi.
Gosodwch ar ridyll poeth a'u coginio ar bob ochr am 1 - 1 1/2 munud.
I orffen, rhowch siwgr eisin ar eu pennau a'u gweini gyda llugaeron ffres a rhosmari.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?