Meinir sy'n mynd ati i blannu planhigion mewn cornel sydd ddim yn derbyn llawer o haul yn ei gardd - yn enwedig yn y gaeaf. Felly pa bynnag fath o ardd sydd gennych chi a pha bynnag ffordd mae hi'n wynebu, mae 'na blanhigion allan yna i bawb.
Gwyddfid -
- Lonicera periclymenum Belgica (ar y wal gysgodol)
- Lonicera periclymenum 'Rhubarb and Custard' (ar y wal heulog)
Clematis -
- Clematis Alpina 'Frankie' (ar y wal gysgodol)
Fuchsia -
- Fuschia 'Lady Boothby' (ar y wal heulog)
Potiau -
- Dianthus 'Mojito' : Mae'r
dianthus yn ffefryn yn yr ardd ac yn hawdd i'w tyfu. Maen nhw'n hoff
o gael eu plannu mewn pridd alcalïaidd sy'n draenio'n hawdd.
Gosodwch mewn man heulog.
- Nemesia 'Aromatica White Improved'
- Lavandula angustifolia 'Hidcote' :
Mae'r Lavandula yn lwyn fytholwyrdd gyda digon o
arogl arno. Mae'r llwyn yn tyfu i uchder o 45cm. Mae'n blodeuo rhwng
canol a diwedd yr haf.
- Centaurea montana 'Purple Heart'
- L. stoechas 'Lilac Wings' : Lafant Ffrengig gyda blodau crwn a phetalau ysgafn
sydd fel adenydd pili-pala. Edrych yn wych mewn border heulog. Denu
gwenyn a phryfetach eraill sy'n caru neithdar.