Rysáit fflapjacs crymbl afal, gellyg a phwmpen
Cynhwysion
Ar gyfer y fflapjacs
- 400g ceirch mawr
- 200g siwgr man euraidd
- 200g menyn
- 100g surop euraidd
- 100g triog
- 200g pwmpen wedi gratio
Ar gyfer y piwre
- 2 afal coginio bramley
- 3 gellygen
- sudd 1/2 lemon
- 800g pwmpen
- 75g menyn
Ar gyfer yr haen crymbl
- 200g blawd plaen
- 150g menyn
- 100g ceirch
- 200g siwgr man euraidd
- 150g pwmpen wedi gratio
Dull
- Ar ôl plicio'r bwmpen, a thynnu'r hadau - coginiwch hi mewn menyn tan mae hi'n feddal.
- Ychwanegwch yr afalau coginio, gellygen, sudd hanner lemon ac ychydig o ddŵr, a chreu piwre o'r holl gymysgedd.
- Wedyn - gwnewch y fflapjacs eu hunain - drwy doddi siwgr a menyn mewn sosban, ychwanegwch driog du a thriog melyn neu surop.
- Ychwanegwch geirch, a phwmpen wedi ei gratio.
- Rhoi'r gymysgedd mewn tun pobi, a thaenu'r piwre ar ei ben.
- Yna - cymysgwch menyn a blawd mewn prosesydd bwyd i greu crymbl, ychwanegwch y ceirch, siwgr a phwmpen wedi ei gratio, a'i wasgaru dros y piwre.
- Coginiwch ar 180 gradd am tua hanner awr.