Sioned sy'n helpu trawsnewid gardd fechan yng Nghaernarfon trwy ddefnyddio cynllun syml a modern.
Clematis 'Fascination'
Mae'r math yma o'r Clematis (Clematis Integrifolia Fascination) yn fath sydd a'i ben i lawr.
Fe allwch chi blannu'r rhain mewn potyn ac maen nhw'n berffaith ar gyfer denu gwenyn a phili-pala i'r ardd.
Clematis 'Rhapsody'
Mae gan y Clematis 'Rhapsody' flodau mawr piws drwy'r haf. Mae'r planhigyn ei hun yn tyfu i uchder o 8-10 troedfedd.
Agapanthus 'Brilliant Blue'
Fel mae ei enw yn awgrymu, mae blodau siâp trwmped y planhigyn yma yn lliw glas anhygoel. Mae'n las golau gyda stribedi tywyllach yn rhedeg ar hyd y petalau.
Mae ei ddeiliach yn siâp stribedi hir sy'n marw'n ôl yn y gaeaf.
Tyfa'r planhigyn lluosflwydd yma i uchder o tua 50cm.
Nepeta 'Six Hills Giant'
Math o fintys y gath yw hwn, â'i flodau bach siâp tiwb sy'n lliw lafant/glas yn sefyll dal mewn clystyrau o fis Mehefin i fis Gorffennaf.
Mae'r deiliach golau llwyd-wyrdd yn bersawrus, ac mae'n edrych yn dda yng nghanol border heulog gyda phlanhigion eraill sydd â lliw tebyg.
Yn ffres neu wedi eu sychu, mae'r dail yn creu te therapiwtig sy'n uchel mewn fitamin C, yn draddodiadol yn cael ei ddefnyddio i drin cyflyrau fel nerfusrwydd, diffyg cwsg ac annwyd.
Mae'r blodau'n ddeniadol i wenyn, ac wrth gwrs mae'r planhigyn yn denu cathod sydd wrth eu bodd efo fo! I atal y cathod rhag ei wasgu yn gyfan gwbl, rhowch frigyn neu ddau yng nghanol y planhigyn.
Dianthus 'Mojito'
Mae'r dianthus yn ffefryn yn yr ardd ac yn hawdd i'w tyfu. Maen nhw'n hoff o gael eu plannu mewn pridd alcalïaidd sy'n draenio'n hawdd. Gosodwch mewn man heulog.
Carex 'Comans Frosted Curls'
Mae'r gwair Carex o'r math 'Frosted Curls' yn blanhigyn bytholwyrdd lluosflwydd sy'n creu pen mop o ddail arian-wyrdd.
Papaver 'Moondance'
Mae pabi hwn o'r math 'Moondance' yn tyfu i 30cm o uchder gyda rhosedau dwys o ddail blewog. O ganol haf i'r hydref, mae blodau lliw lemwn yn ffurfio uwchben ei ddeiliach.
Marjoram
Mae'r marjoram yn berlysieuyn hawdd i'w dyfu sy'n hapus mewn pot neu yn yr ardd. Yn arferol, mae tri math sy'n cael ei dyfu – y marjoram melys, marjoram pot a'r marjoram gwyllt (common oregano)
Gellir defnyddio pob marjoram yn y gegin i ychwanegu blas at fwyd. Maen nhw hefyd yn cael eu tyfu oherwydd y persawr anhygoel sydd arnyn nhw.
Rhosmari 'Prostratus'
Mae hwn yn fath o rosmari sy'n tyfu'n isel ac yn lledaenu. Mae'n datblygu blodau piws-las o ganol y Gwanwyn i ddechrau'r Haf.
Mae'n ddefnyddiol fel planhigyn border ar gyfer gardd berlysiau.
Mae'r dail ifanc yn wych ar gyfer ychwanegu blas ar lysiau wedi'u rhostio, cig oen a phorc.
Ambella
Mae'r Campanula Ambella yn blanhigyn lluosflwydd sydd yn tyfu'r un mor dda tu allan ac y gwneith tu mewn. Mae blodau'r ambella yn rai siâp clychau ac ar gael mewn amryw o liwiau pinc, glas a gwyn.
Olea Europaea
Mae'r goeden olewydd yn un bytholwyrdd sy'n ychwanegu elfen Fediteranaidd i'r ardd. Maen nhw'n hapus mewn pridd neu mewn potyn ac yn gallu cynhyrchu ffrwyth mewn ardaloedd yng Nghymru sy'n cael hafau cynnes.
Os oes gennych chi ardd sydd wedi ei warchod, fe allwch chi dyfu'r goeden tu allan os ydyn nhw mewn ardal heulog. Mewn ardaloedd oerach, mae'n well eu cadw mewn tŷ gwydr neu ystafell haul (conservatory) dros y gaeaf.
Mae'r planhigion yn gwneud yn well os ydyn nhw'n cael eu dyfrio'n rheolaidd mewn cyfnodau sych. I hybu tyfiant cryf, mae'n syniad da eu bwydo yn y Gwanwyn.
Maen nhw fel arfer yn colli'r hen ddail ym mis Ebrill fel mae'r tyfiant newydd yn cychwyn.
Achillea
Mae'r Achillea yn blanhigyn lluosflwydd gyda dail sy'n gallu bod ag arogl cryf arnyn nhw. Mae'r blodau bach fel llygad y dydd sydd arno yn ffurfio clystyrau.
Gall dyfu hyd at 60cm.