Fe gysylltodd Nia a Dylan gyda'r tîm i ddod a mwy o liw i'r darn bychan o'r ardd o flaen y tŷ.
Mae'r 'Intense Blue' yn hyfryd mewn borderi, neu ar gyfer y patio.
Mae'n blodeuo yn ystod mis Mehefin.
Mae'r Intense Blue yn tyfu i uchder o 30cm a'n addas ar gyfer pob math o amodau. Mae'n blanhigyn sy'n hawdd iawn i'w gadw.
Mae gan y Heuchera yma ddail mawr, lliw gwin. Mae'n fath boblogaidd o heuchera sy'n cael ei dyfu oherwydd ei ddeiliach trawiadol a'n edrych yn effeithiol wedi ei blannu gyda phlanhigion a blodau cyferbyniol.
Lafant Ffrengig gyda blodau crwn a phetalau ysgafn sydd fel adenydd pili-pala.
Edrych yn wych mewn border heulog.
Denu gwenyn a phryfetach eraill sy'n caru neithdar.
Mae'r Lavandula yn lwyn fytholwyrdd gyda digon o arogl arno.
Mae'r llwyn yn tyfu i uchder o 45cm.
Mae'n blodeuo rhwng canol a diwedd yr haf.
Mae'r llwyn bytholwyrdd yma yn un poblogaidd iawn sydd ddim angen llawer o waith cynnal a chadw.
Mae'n blanhigyn caled sy'n gwneud yn dda mewn unrhyw forder mewn pridd sy'n draenio'n dda (mewn ardal heulog neu rhannol gysgodol)
Mae rhosmari yn lwyn sy'n tyfu i faint o tua 2m x 2m.
Mae ei ddail main yn wyrdd tywyll a'i flodau fel arfer yn fioled-las neu'n wyn.
Mae'n cychwyn blodeuo yn y Gwanwyn.
Mae blodau Dianthus hefyd yn cael ei galw yn "pinks". Maen nhw'n perthyn i deulu o blanhigion sy'n cynnwys y carnations.
Mae'r Dianthus fel arfer yn cael ei defnyddio mewn borderi neu mewn potiau.
Yn perthyn i'r Catnip, mae Catmints neu'r Nepeta yn blanhigion hawdd i'w tyfu.
Mae ganddyn nhw flodau mewn lliwiau piws, glas, pinc a gwyn gyda deiliach llwyd/gwyrdd sy'n parhau i edrych yn dda trwy gydol y tymor tyfu.