Tekkers
Oes gen ti TEKKERS? Pa mor dda wyt ti’n saethu, driblo neu basio? Mewn cyfres newydd ar Stwnsh, bydd rhai o bêl-droedwyr ifanc Cymru yn profi eu sgiliau mewn gemau gwirion yn stadiwm TEKKERS. Dau dîm sy’n cystadlu mewn 5 gêm gwallgo i ennill Tlws Tekkers.
Heledd Anna, Lloyd Lewis a Huw Owen sy’n herio pêl-droedwyr ifanc Cymru i brofi eu sgiliau mewn pum gêm bêl-droed yn stadiwm Tekkers. Dau dîm o bedwar sy’n cystadlu mewn pump gêm gwallgo, ond pa dîm fydd yn cipio Tlws Tekkers ar ddiwedd y rhaglen?
Siart y Gyfres
Ydy dy ysgol DI yn cymryd rhan yn TEKKERS? Dilyna eu siwrne gyda siart y gyfres!