Freely
Mae ap S4C Clic ar gael ar Freely heb orfod lawrlwytho. Mae S4C ar gael ar Freely. Yng Nghymru, mae'n bosib o hyd i S4C ar rif 4 o ran ffrydio ar-lein, rhif 62 ar gyfer HD DTT, a rhif 236 ar gyfer gwylio SD DTT. Tu allan i Gymru, mae'n bosib gwylio S4C ar rif 79.
YouView
Mae ap S4C Clic ar gael ar YouView yng Nghymru ac yn ymddangos ar drydydd slot y faner. Ar gyfer gweddill y DU, mae ap S4C Clic ar gael ar y dudalen apiau ac yn gallu cael ei lansio heb ei lawrlwytho.
Freeview Play
Mae ap S4C Clic ar gael ar Freeview Play heb orfod lawrlwytho. Yng Nghymru, mae'r ap yn ymddangos ar bumed slot y faner. Gyda'r ap ar gael yn Lloegr a'r Alban hefyd. Y nawfed safle yn yr ardal allgraidd i Loegr, ac yn wythfed ar gyfer yr Alban.
Amazon Fire TV
Mae ap S4C Clic ar gael ar ddyfeisiau Amazon Fire TV trwy'r farchnad apiau.
Cofiwch: Nid yw ap S4C Clic wedi ei lawrlwytho ar unrhyw ddyfeisiau Amazon Fire TV yn y DU ar hyn o bryd, ac felly bydd angen ei lawrlwytho.
Xbox
Mae ap S4C Clic ar gael ar gonsolau Xbox One S|X and Xbox Series S|X trwy'r farchnad apiau.
Cofiwch: Nid yw ap S4C Clic wedi ei lawrlwytho ar unrhyw gonsolau Xbox yn y DU ar hyn o bryd, ac felly bydd angen ei lawrlwytho.
Chromecast
Mae apiau S4C Clic (fersiynau Android ac iOS) yn caniatáu ichi gastio cynnwys S4C i'ch dyfais Chromecast. Er mwyn darganfod sut i gastio cynnwys S4C, ewch i wefan Google Chromecast.