S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Swyddi

Crëwr Digidol – Newyddion Digidol S4C

Gyda'r cyfryngau cymdeithasol yn rhan ganolog o fywyd nifer fawr iawn o bobl, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn strategaeth ddigidol S4C.

Mae'r ffordd yr ydym yn ymwneud â chynnwys yn newid ac mae S4C wrthi'n ymateb i'r newid hwnnw gyda ffocws ar ddatblygu cynnwys digidol, gwreiddiol yn ogystal â chynnwys sydd yn cyd-fynd â rhaglenni a chyfresi S4C.

Mae S4C yn chwilio am Crëwr Digidol i weithio o fewn tîm Newyddion S4C er mwyn creu'r cynnwys gorau a fydd yn adrodd straeon a phrofiadau unigolion i'w gyhoeddi ar wahanol blatfformau fel TikTok, Instagram, Facebook, X (Twitter) ac YouTube.

Yn ogystal â gweithio ar leoliad, bydd elfen fawr o olygu cynnwys, dewis clipiau a chreu graffeg.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn rhugl yn y Gymraeg a Saesneg i safon dda gyda staff ac eraill ar bob lefel, yn ysgrifenedig ac ar lafar yn hanfodol ar gyfer y rôl.

Manylion Eraill

Lleoliad: Mae gennym swyddfeydd yng Nghaerfyrddin Caernarfon a Chaerdydd. Rydym yn cynnig trefniadau gweithio'n 'hybrid' ynghyd ag ystod eang o batrymau hyblyg gwahanol.

Cyflog: O gwmpas £26,000 - £33,035 pro rata y flwyddyn, yn ddibynnol ar brofiad.

Cytundeb: Parhaol

Oriau Gwaith: Bydd eich oriau gwaith arferol yn gyfanswm o 35¾ awr yr wythnos. Oherwydd natur y gwaith, bydd angen i chi weithio yn ôl patrwm sifft weithredol. Felly byddwch yn gweithio yn wythnosol pum diwrnod allan o saith, yn unol â gofynion y gwasanaeth. Os oes angen i chi weithio patrwm shifft mi fyddwch yn cael eich hysbysu o'r patrwm shifft o flaen llaw.

Cyfnod Prawf: 6 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau pro rata gyda thâl y flwyddyn.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 12:00 y prynhawn ar ddydd Mercher 4 Rhagfyr 2024 at Pobl@s4c.cymru neu Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.

Dyddiad Cyfweliadau: 9 Rhagfyr 2024

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Manylion Swydd

Ffurlfen Gais

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?