Steffan Prys Roberts o Lanuwchllyn yn canu 'Dal y Freuddwyd' mewn Noson Lawen a recordiwyd yn Y Bala.
Disgyblion ieuengaf Ysgol O M Edwards yn cyffwrdd pob calon gyda'u perfformiad bywiog a direidus o 'Wil Cwac Cwac'.
Rhys Gwynfor a'i gyfeillion yn perfformio 'Cwmni Gwell' ar Noson Lawen a recordiwyd yn Y Bala
Blas o Dde Sbaen ar lwyfan Noson Lawen ym mhortread Sioned Gwen Davies o'r sipsi Carmen ac Aria Habanera
Talent anhygoel Osian James Daley-Tyson mewn perfformiad ar y gitâr o 'Babe I'm Gonna Leave You'
Doghie Band yn creu cameos hyfryd o arfordir Sir Benfro yn eu perfformiad o'r gân 'Yr Hebog Tramor'.
Côr Ysgol Y Preseli dan arweiniad Trystan Philips yn perfformio 'Pan Fo'r Nos Yn Hir' gan y diweddar Ryan Davies ar Noson Lawen.
Robyn Lyn Evans yn perfformio'r gân Neopolitaidd 'Core 'Ngrato' ar Noson Lawen - y gerddoriaeth gan Salvatore Cardillo a'r geiriau gan Riccardo Cordiferro.
Caru Byw Bywyd' gan Danielle Lewis, perfformiad ar Noson Lawen sy'n sicr o godi'r galon.
Acrobateg cerddorol gan Heledd Gwynant yn ei pherfformiad o 'Helter Skelter' ar Noson Lawen.
Arddull jazz ar Noson Lawen gan Gillian Elisa a Deiniol Wyn Rees yn eu perfformiad o 'Mac y Llafn'.
Eirlys Myfanwy yn canu'r gân sy'n ennyn hiraeth am eu mamwlad ymysg y Cymry o bedwar ban y byd – 'Cartref'.
Gwahoddiad gan y Dhogie Band ar Noson Lawen i droedio Mynydd Carningli a chofio chwedloniaeth gyfoethog Sir Benfro.
'Ffrindiau Oes' – deuawd gan Robyn Lyn Evans ac Eirlys Myfanwy sy'n son am ddyfnder cyfeillgarwch.
Ar Log yn perfformio medli bywiog o alawon traddodiadol ar Noson Lawen fel rhan o'u dathliadau i nodi 40 mlynedd o berfformio.
Criw Pen Barras yn gwneud i bawb wenu gyda'u perfformiad chwareus o 'Lolipop' ar Noson Lawen.
Cymeriadu celfydd gan John Ieuan Jones yn ei berfformiad o 'Pe Bawn I'n Gyfoethog' ar Noson Lawen.
Medli hyfryd gan Glain Rhys ar Noson Lawen – 'Ddoi di draw / Ar lan y môr'.
Dafydd Iwan ac Ar Log yn cofio'n hoffus am y diweddar D J Williams yn y gân 'Y Wên Na Phyla Amser'.
Heulen Cynfal yn perfformio 'Cân Chwerthin Adele', cyfieithiad y diweddar Dyfnallt Morgan o 'Mein Her Marquiss' gan Strauss.
Hyder a her ym mherfformiad Côr Ffermwyr Ifanc Meirionnydd o'r gân 'Mae'r Dyfodol yn ein Dwylo Ni' dan arweiniad Arfon Williams gyda Catrin Jones yn cyfeilio.
John Ieuan Jones yn canu un o'r caneuon Cymraeg mwyaf teimladwy a dirdynnol, 'Dafydd y Garreg Wen'
Dafydd Iwan ac Ar Log yn herio'r Cymry i sefyll yn gryf yn y gân 'Cerddwn Ymlaen' i gloi Noson Lawen a recordiwyd yn Y Bala.
Blas y pridd wrth i Steffan Lloyd Owen ein tywys at "grefft gyntaf dynolryw" yn yr unawd 'Cân yr Arad Goch'.
Emyr Huws Jones, 'Ems' – y canwr gyfansoddwr - yn perfformio un o'i ganeuon diweddaraf yn dwyn y teitl 'Perthyn'.
Hogia Llanbobman o dan arweiniad Catrin Angharad Jones yn perfformio 'Adre Nôl' ar Noson Lawen.
Carly Owen a pherfformiad o 'Cymru Fach' – geiriau gwladgarol Elfed a cherddoriaeth David Richards.
Iwan Llewelyn-Jones yn perfformio'i drefniant i'r piano o 'Ora Pro Nobis' (Meirion Williams) ar lwyfan Noson Lawen yn Pontio.
Emyr Huws Jones – 'Ems', gyda chymorth Tudur Huws Jones a Tudur Morgan, yn perfformio 'Yr Hogyn yn y Llun' ar Noson Lawen gyda chynulleidfa o'i gefnogwyr yn Pontio.