Dafydd a Lisa yn talu teyrnged i'r ddeuawd enwog o Fôn - Tony ac Aloma, gyda pherfformiad o'r gân Cofion Gorau ar y rhaglen Noson Lawen.
Calfari, y grŵp o Fôn, ar lwyfan Noson Lawen yn canu un o'u caneuon poblogaidd - Rhydd.
Perfformiad Côr Aelwyd Yr Ynys gyda'u harweinyddes Nia Wyn Efans o gân un o gyfansoddwr gorau y fam ynys - Ems - Ceidwad Y Goleudy.
Camwn i fyd yr opera gyda pherfformiad Llio Evans o'r aria Je Veux Vivre gan Gounod mewn Noson Lawen a recordiwyd yn Theatr Bryn Terfel yn Pontio, Bangor.
Jâms Coleman sy'n wreiddiol o Landegfan, Môn yn perfformio Boogie Woogie Etude ar Noson Lawen.
Meinir Gwilym ar lwyfan Noson Lawen yn canu un o'i chaneuon poblogaidd -Gwallgo.
Dylan a Neil yn canu Tafarn y Gardd Fôn - cân am dafarn wedi ei lleoli yn un o'r mannau hyfrytaf ar lannau'r Fenai.
Dychwela Llio Evans a Jâms Coleman i Fôn i'w sir genedigol i berfformio Popeth Wyt Ti mewn Noson Lawen gydag artistiaid o'r ynys.
Ymuna Côr Aelwyd Yr Ynys gyda Meinir Gwilym i ganu un o'i chaneuon poblogaidd - Gormod.