Cordia - triawd merched ifanc o Sir Fôn yn agor yr arlwy ar Noson Lawen gyda'u cân wreiddiol Celwydd.
Elfed Morgan Morris yn perfformio cân newydd yn dwyn y teitl Y Lle Sy'n Well Ar Wahân ar Noson Lawen, yr alaw o'i waith ei hun a'r geiriau gan y bardd Karen Owen.
Eve Goodman gyda chymorth Nerys Richards ar y sielo yn perfformio'r gân draddodiadol Dacw Nhariad I Lawr Yn Y Berllan ar Noson Lawen.
Côr Dre o dre'r Cofis gyda'u harweinyddes Sian Wheway yn perfformio Rhyfeddod gan y cyfansoddwr Eric Jones ar Noson Lawen.
Gwelwyd Gwilym (Ifan Pritchard) yn perfformio Llechan Lân, ei sengl gyntaf, ar Noson Lawen.
Welsh Whisperer yn tynnu coes gyda'r gân Tyllau yn y Llawr ar Noson Lawen.
Y ddeuawd Glesni Fflur a Gethin Fôn yn perfformio Dal y Gannwyll - cân o waith Gethin.
Sefydlwyd Seindorf Arian Deiniolen yn 1835 gan griw o chwarelwyr Dinorwig, a gwelwyd ensemble o'r band yn perfformio Soul Bossa Nova dan arweiniad Lois Eifion ar Noson Lawen.
Empty Pockets yn agor Noson Lawen o Theatr Lyric Caerfyrddin gyda'u cân Ar Fy Ffordd Yn Ôl.
Gwenau ac asbri gan Gôr Ysgol Y Dderwen a'u harweinyddes Catrin Davies yn eu perfformiad o Ffa la la allan o'r sioe gerdd Nia Ben Aur ar Noson Lawen wedi ei recordio yn nhref Caerfyrddin.
Huw Chiswell yn perfformio un o'i ganeuon poblogaidd Etifeddiaeth Ar Werth.
Geiriau ac alaw dyner yn neuawd Aled ac Eleri Edwards ar Noson Lawen - Dim Ond Ti.
Emyr Wyn Jones yn canu un o ffefrynnau'r baswyr, Aros Mae'r Mynyddau Mawr (Ceiriog / Meirion Williams) ar Noson Lawen.
Côr Lleisiau'r Cwm gyda'u harweinyddes Catrin Hughes yn perfformio Lleisiau Mewn Cynghanedd - darn comisiwn arbennig iddyn nhw gan Robat Arwyn a Tudur Dylan i ddathlu penblwydd y Côr yn un ar hugain oed.
Hwyl a churo traed yng nghwmni Ieuan Jones a'i gân iodlo ar Noson Lawen.
Huw Chiswell a'r gân Nos Sul a Baglan Bay sy'n disgrifio'r goleuadau ym Mae Baglan.
Ymuna Côr Lleisiau'r Cwm gydag Emyr Wyn Jones i ganu'r gân bwrerus Un Ydym Ni (Tony Llewelyn / Caryl Parry Jones) i gloi Noson Lawen a recordiwyd yn Theatr Lyric Caerfyrddin.
Alaw a Gwilym Bowen Rhys yn perfformio eu trefniant egnïol o Santiana ar Noson Lawen.
Côr Ffermwyr Ifanc Llanfyllin dan arweiniad Catherine Parry a gyda Manon Watkins yn cyfeilio yn perfformio trefniant Sian Wheway o Yma Wyf Innau i Fod gan Meirion Macintyre Huws a Geraint Lovgreen.
Sian James gyda chymorth y pibydd Patrick Rimes yn perfformio Fflyff ar y Nodwydd mewn Noson Lawen a recordiwyd yn Llanfair Caereinion.
Parti Ysgol Pontrobert yn swyno'r gynulleidfa mewn Noson Lawen i fyny'r lôn yn Llanfair Caereinion gyda'r gân Tŷ Nain.
Robert Lewis yn perfformio'r unawd Gymraeg hyfryd i denoriaid - Bugail Aberdyfi gan Idris Lewis a'r bardd Ceiriog.
Parti Cut Lloi yn canu cân werin ddoniol yn dwyn y teitl Ddaw Hi Ddim mewn Noson Lawen wedi ei recordio yn eu milltir sgwâr yn Llanfair Caereinion.
Robert Lewis yn canu'r unawd hyfryd gan Tosti - L'alba Separa ar lwyfan y Noson Lawen.
Perfformiad hyfryd gan Sian James, Rhys Meirion a Pharti Cut Lloi o'r gân Pennant Melangell, y geiriau gan y ddiweddar Nansi Richards (Telynores Maldwyn) a'r gerddoriaeth gan Sian James.
Triawd Merched Moeldrehaearn - Angharad, Caryl a Manon - yn perfformio Chwarae'n Troi'n Chwerw gan Caryl Parry Jones a Myfyr Isaac ar Noson Lawen.
Patrobas, y band o Ben Llŷn yn perfformio'u cân Geiriau Brad ar Noson Lawen.
Côr Aelwyd Chwilog gan arweiniad Pat Jones a gyda Catrin Alwen yn cyfeilio yn perfformio Dangos y Ffordd gan Robat Arwyn mewn Noson Lawen gydag artistiaid o Lŷn ac Eifionydd.
Y ddeuawd Gwyneth Glyn a Twm Morys yn cyflwyno'r gân Coliseum gan y diweddar Alun Sbardun Huws. Ymuna Euron Jos â hwy i chwarae gitâr 'resonator' a dderbyniodd gan y teulu wedi marwolaeth Sbardun.
Pedwarawd Teulu Hendre Cennin yn perfformio trefniant hyfryd gan Gwenan Gibbard o gân Endaf Emlyn, Madryn.