Alaw Tecwyn yn canu Yfory Newydd - yr alaw o'i gwaith ei hun a'r geiriau gan y bardd Huw Erith.
Côr Yr Heli mewn Noson Lawen gydag artistiaid o Lŷn ac Eifionydd yn perfformio trefniant Gwenan Gibbard o Hwre Am Gei Caernarfon - alaw draddodiadol a geiriau o gasgliad J Glyn Davies.
Dychwela'r ddwy chwaer Anni a Megan Llŷn at eu gwreiddiau i ganu cân o waith Anni sy'n son am eu hoffter o Lŷn a'r dynfa'n ôl.
Ymuna Côr Aelwyd Chwilog gyda Gwyneth Glyn i berfformio'i chân Adra mewn Noson Lawen gydag artistiaid o Lŷn ac Eifionydd.
Patrobas yn perfformio Paid Rhoi Fyny, cân wedi ei chyfansoddi gan aelodau'r band, ar Noson Lawen.
Anthony Stuart Lloyd, a ddisgrifwyd fel y gŵr gyda'r llais Rolls Royce, yn diddanu cynulleidfa'r Noson Lawen gyda'i berfformiad o Un Eiliad Mewn Oes.
Côr Orpheus Treforys dan arweiniad Joy Amman Davies a gyda Llyr Simon yn cyfeilio yn perfformio Mor Hawddgar Yw Dy Bebyll gan y cyfansoddwr Eric Jones ar Noson Lawen.
Osian Wyn Bowen yn perfformio'r unawd Gymraeg boblolgaidd i denoriaid Yr Hen Gerddor ar Noson Lawen.
Gwenda a Geinor yn diddanu cynulleidfa'r Noson Lawen yng Nghaerfyrddin gyda'r gân Tra Bo Tri.
Ymuna Côr Orpheus Treforys gyda Anthony Stuart Lloyd mewn perfformiad pwerus o Ni Cherddi'n Unig Fyth ar lwyfan y Noson Lawen.
Sipsi Gallois, y band jás sipsi o Sir Gâr, yn perfformio un o'r caneuon oddi ar eu hail gryno ddisg ar Noson Lawen - Tracey Rees.
Bronwen Lewis, y gantores o Flaen Dulais, yn canu un o'i chaneuon gwreiddiol ar Noson Lawen - Ti a Fi.
Côr Merched Hŷn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin dan arweiniad Meinir Richards yn canu Gwenllian o waith Eric Jones a Peter Hughes Griffiths mewn Noson Lawen a recordiwyd yn Theatr Lyric Caerfyrddin.
Dilynwyr Clive Edwards yn mwynhau ei berfformiad o Cân Y Cymro mewn Noson Lawen a recordiwyd yng Nghaerfyrddin.
Gwenda a Geinor yn perfformio Unig Hebddo Ti gan Emlyn Dole ar Noson Lawen.
Dafydd Iwan yn canu Cân Y Medd ar Noson Lawen - ei alaw ar gerdd Yr Athro T Gwynn Jones.
Y ddeuawd Robyn Lyn Evans ac Aneira Evans yn canu Nos O Ser A Nos O Serch (Barcarolle) gan Offenbach ar Noson Lawen.
Côr Meibion Machynlleth a'u harweinydd Aled Myrddin yn perfformio Gwinllan A Roddwyd ar Noson Lawen - i gyfeiliant Caradog Williams, sef cyfansoddwr y gerddoriaeth.
Malen Meredydd Aeron yn ymddangos am y tro cyntaf ar Noson Lawen i berfformio'r ffefryn Nid Llwynog Oedd Yr Haul gan Geraint Lovgreen a Myrddin ap Dafydd.
Hwyl gyda Gwibdaith Hen Frân ar Noson Lawen wrth glywed am yr anturiaethau wrth grwydro'r wlad yn y Toyota Corolla GLI yn y gân Car Bach Fi.
Dafydd Iwan yn canu'r gân Esgair Llyn ar Noson Lawen - y geiriau wedi eu hysgogi o'i atgofion o dreulion gwyliau'r haf efo'i ewythr ar ei fferm yn Aberhosan ym Mro Ddyfi.
Hwyl a churo traed wrth i gynulleidfa'r Noson Lawen fwynhau un o ganeuon mwyaf poblogaidd Gwibdaith Hen Frân - Trons Dy Dad.
Ymuna Côr Meibion Machynlleth gyda'r tenor Robyn Lyn Evans mewn datganiad pwerus o Yn Llaw Fy Nuw.
26 Chwefror 2018
Mae gwylwyr setiau teledu Samsung TV bellach yn gallu dewis gwylio rhaglenni S4C, yn fyw ac ar alw,...
05 Ionawr 2018
Llond theatr o bobl yng nghanolfan Pontio oedd y cyntaf i brofi blas ar ddrama drosedd newydd...
05 Ionawr 2018
Mae pawb yn dueddol o fwynhau trît dros gyfnod y Nadolig… ond yn fuan wedyn daw'r pryder am...
08 Ionawr 2018
Mae gwylwyr gwasanaeth Amazon Fire bellach yn gallu manteisio ar ap newydd er mwyn gwylio rhaglenni...
09 Ionawr 2018
Fe gynyddodd y nifer o bobl oedd yn gwylio S4C dros y Nadolig o 5% o gymharu â gostyngiad o...
17 Ionawr 2018
Bydd wynebau newydd a chyfarwydd yn dod ynghyd i gyflwyno un o gyfresi hynaf S4C ar ei newydd...