25 Hydref 2018
Mae S4C wedi cyhoeddi Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg ar gyfer 2017/18
31 Hydref 2018
Mae S4C wedi denu cefnogaeth noddwr crysau tîm rygbi Cymru, Isuzu, ar gyfer Cyfres Ryngwladol Under Armour yr Hydref eleni. Bydd y cwmni ceir o Siapan - sydd yn cael eu hadnabod fel y pick-up professionals ac yn sy'n gwneud Isuzu D-Max - yn noddi rhaglenni Clwb Rygbi Rhyngwladol, wrth iddyn nhw ddangos gemau Cymru yn fyw yn ystod mis Tachwedd.
1 Tachwedd 2018
Mae rhai o gyflwynwyr mwyaf poblogaidd S4C yn byw ac yn gweithio yng nghanolbarth Cymru ac mae camera cwmnïau teledu Cymraeg yn aml yn cael eu gweld yn ffilmio ar hyd a lled Powys - ond nawr mae cyfle i wylwyr yr ardal ddod o hyd i'w llais.
8 Tachwedd 2018
Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Jeremy Wright CF, AS a Gweinidog Llywodraeth y DU i Gymru Yr Arglwydd Bourne yn agor pencadlys newydd S4C yng Nghaerfyrddin heddiw, dydd Iau, 8 Tachwedd 2018 am 11.30 y bore.
Yn ystod eu hymweliad byddant yn cael eu tywys ar daith o'r adeilad newydd sbon, arloesol Yr Egin.
Mae cyfres lwyddiannus S4C Un Bore Mercher (Keeping Faith) wedi cael ei henwebu yng Ngwobrau Rhyngwladol Drama C21 2018 yng nghategori Drama Gorau Drama Mewn Iaith Heblaw Saesneg.
Wedi ei ffilmio yng ngorllewin Cymru, fe ddatblygwyd Un Bore Mercher yn wreiddiol gan S4C. Yn ystod yr haf, dangoswyd Keeping Faith ar deledu rhwydwaith ar draws y DG - y tro cyntaf i gynhyrchiad drama teledu ar y cyd rhwng S4C a BBC Cymru gael ei ddarlledu ar BBC One.
Mae cyfres antur ddychrynllyd i bobl ifanc, Prosiect Z, wedi ennill gwobr BAFTA Plant 2018. Cynhaliwyd seremoni BAFTA, sydd yn gwobrwyo'r rheiny sy'n flaengar ym maes cyfryngau plant ym Mhrydain, yn Llundain neithiwr nos Sul 25 Tachwedd.
Mae S4C wedi cyhoeddi cystadleuaeth arbennig i ddathlu cyrraedd 50,000 o ddilynwyr ar Facebook. S4C sy'n rhedeg y cyfrif Cymraeg mwyaf gyda'r nifer uchaf o ddilynwyr.
12 Rhagfyr 2018
Mi fydd detholiad o gyfresi poblogaidd S4C a ffilmiau Nadolig ar gael i'w wylio ar alw fel bocs sets ar wasanaeth ar-alw y sianel, S4C Clic.
Mae S4C yn falch o gyhoeddi mai Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes newydd y sianel yw Geraint Evans. Mae Geraint ar hyn o bryd yn Olygydd Rhaglenni Cymraeg yn ITV Cymru ac yn gyfrifol am raglenni megis Y Byd yn ei le, Y Byd ar Bedwar, Ein Byd a Cefn Gwlad.
Galwad i gyrchu tua'r crud gan Trystan Llŷr Griffiths yn y garol Tua Bethlehem Dref.
Dathliad o enedigaeth Crist gan CF1 mewn datganiad o'r garol Daeth Crist i'n Plith, (trefniant Eilir Owen Griffiths).
Côr Ysgol Bro Teifi yn mwynhau awyrgylch y Noson Lawen wrth iddyn nhw berfformio YMA MAE NGHALON gan Dafydd Iwan - cân o werthfawrogiad am ryfeddod natur a'r tymhorau.
Perfformiad pwerus Billy Thompson a Gwyneth Glyn o GWINLLAN A RODDWYD (Dafydd Iwan) gyda dyfyniad allan o BUCHEDD GARMON (Saunders Lewis) ar Noson Lawen.
Welsh Whisperer gyda chân tafod yn ei foch MAE DAFYDD IWAN YMA O HYD ar Noson Lawen arbennig i ddathlu pen blwydd Dafydd Iwan.
Elin Fflur a Billy Thompson yn perfformio ESGAIR LLYN ar Noson Lawen - geiriau arbennig Dafydd Iwan yn cofio am y tyddyn bach yn Sir Drefaldwyn lle y treuliodd sawl gwyliau yn ystod ei blentyndod.
Ymuna'r holl artistiaid gyda Dafydd Iwan i ganu medli o ddwy o'i ganeuon anthemig - CERDDWN YMLAEN ac YMA O HYD - mewn Noson Lawen arbennig i ddathlu ei ben blwydd.