Lleisiau cyfoethog yr ensemble dynion yn swyno'r gynulleidfa gyda'r pherfformiad o Benedictus gan Robat Arwyn.
Pedwarawd Pres - Cai Isfryn, Gwyn Owen, Dafydd Thomas a Dewi Garmon yn agor Noson Lawen gyda pherfformiad o 'Calon' gan Caryl Parry Jones.
Datganiad teimladwy Steffan Rhys Hughes, gyda chyfeiliant meistrolgar gan Myfyr Isaac, o'r gân hudolus 'Nos Yng Nghaer Arianrhod'.
Mared Williams yn perfformio'i threfniant pwerus o'r gân 'Fel hyn oedd pethe i fod' ar Noson Lawen.
Perfformiad sensitif gan Gildas o gân deimladwy Caryl Parry Jones - 'Mor Dawel'.
Eden, gyda chyfeiliant y Pedwarawd Pres, â pherfformiad cynhyrfus o fedli o ganeuon Caryl Parry Jones wedi ei drefnu gan Steffan Rhys Hughes.
Ymuna Mared Williams a Steffan Rhys Hughes i ganu'r ddeuawd 'Fedra i mond dy garu di o bell' ar Noson Lawen.
Ymuna Caryl Parry Jones gydag artistiaid y noson i ganu 'Gorwedd Gyda'i Nerth' - mewn rhaglen arbennig yn y gyfres Noson Lawen i ddathlu ei phenblwydd.
Côr Ysgol Glan Clwyd yn canu trefniant meistrolgar gan Peter Williams o 'Pan Ddaw Yfory', un o ganeuon poblogaidd Caryl Parry Jones.
Elan, Miriam a Greta Isaac gyda pherfformiad tri llais o 'Y Tango a'r Cha Cha Cha' ar Noson Lawen.
Digon o hwyl gyda Phil Gas a'r Band yn eu hymddangosiad cyntaf ar y gyfres Noson Lawen a'u perfformiad o Seidr ar y Sul.
Stori ramant ar lwyfan y Noson Lawen gyda pherfformiad Rhys Meirion o'r gân serch hyfryd Musica Proibita.
Daw Cymru a Phatagonia ynghyd mewn cân ar y Noson Lawen ym mherfformiad Rhys Meirion ac Alejandro Jones o Calon Lan ar yr alaw Deio Bach.
Alejandro Jones o Drefelin ym Mhatagonia yn perfformio Cofio dy Wyneb (Emyr Huws Jones) mewn Noson Lawen yn Llanbed tra ar ei ymweliad â Chymru.
Côr Merched Ger y Lli gyda'u harweinydd Gregory Vearey-Roberts yn diddori cynulleidfa'r Noson Lawen gyda pherfformiad o eiriau sy'n sôn am nerth y gân yn ein cynnal ar adegau anodd bywyd.
Digon o hwyl ar y Noson Lawen ym mherfformiad bywiog Ensemble Ysgol Bro Teifi o drefniant o'r gân werin Deryn y Bwn.
Mari Mathias ar lwyfan y Noson Lawen yn Llanbed yn perfformio un o'i chyfansoddiadau ei hun - Ysbryd y Tŷ.
Llond lwyfan o aelodau Côr Aelwyd ac Adran Yr Urdd Llanbedr Pont Steffan yn mwynhau diddori'r gynulleidfa mewn Noson Lawen yn Llanbed gyda'u perfformiad o Dangos y Ffordd (Robat Arwyn).
15 Ionawr 2019
Mae rhaglen deledu sy'n anelu i drawsnewid ffitrwydd a iechyd pum person yn derbyn ceisiadau ar gyfer y gyfres nesaf.
Mae Cwmni Da, y cwmni teledu sy'n cynhyrchu FFIT Cymru ar gyfer S4C, yn annog pobl i roi eu henwau ymlaen i gymryd rhan yn y gyfres nesaf drwy fynd i'r wefan, s4c.cymru/ffitcymru, a chlicio ar y botwm 'Ymgeisio Yma'. Y dyddiad cau yw 25 Ionawr 2019.
Mae S4C wedi cyhoeddi mai Cyfatebol sydd wedi ennill cytundeb gwasanaeth isdeitlo y sianel.
Bydd Cyfatebol yn darparu gwasanaeth isdeitlo Saesneg sy'n cynnwys gwasanaeth isdeitlo Saesneg ar gyfer rhaglenni byw a rhaglenni a gyflwynir yn agos at y dyddiad darlledu a gwasanaeth isdeitlo Cymraeg i S4C dros y pedair blynedd nesaf.
Jamie Bevan yn cyflwyno cân llawn hwyl Dim Lentils Mewl Cawl ar lwyfan Noson Lawen gyda pherfformwyr o'r Cymoedd.
Lisa Victoria â pherfformiad sensitif o'r gân hudolus Y Caeau Aur ar Noson Lawen o Bentre'r Eglwys ger Pontypridd.
Aelodau Côr Ysgol Gymraeg Evan James yn cyflwyno Cân Yr Ysgol o waith Sian Elin Jones ar Noson Lawen - gyda'r plant yn ymfalchio yn eu hysgol, eu gwaith, eu hiaith a chwmni ffrindiau da.
Gracie Richards yn perfformio'i chyfansoddiad Awr Cyn y Wawr yn ei hymddangosiad cyntaf ar y gyfres Noson Lawen.
Cynulleidfa Noson Lawen o'r Cymoedd yn mwynhau llais melfedaidd Huw Euron a'i berfformiad o Anthem.
Côr Aelwyd Cwm Rhondda dan arweiniad Rachel Stephens yn canu Ffydd, Gobaith, Cariad (Robat Arwyn) mewn Noson Lawen gyda chyd artistiaid o'r Cymoedd.
Cyfaredd cerddorol gyda Tom Hutchinson, prif chwaraewr corned Band Pres y Cory a'i berfformiad o CARNIVAL OF VENICE ar Noson Lawen.
Jamie Bevan yn cyflwyno hanes un o gymeriadau lliwgar Merthyr 'Johnny Bach Pentips' i gynulleidfa Noson Lawen.
Daw dau o wynebau cyfarwydd yr opera sebon Pobol y Cwm at ei gilydd i ganu deuawd am y tro cyntaf ar Noson Lawen, Huw Euron a Lisa Victoria - Ti Yw Y Rheswm.
Gall cwsmeriaid Virgin Media nawr fwynhau rhaglenni S4C mewn manylder uchel, a hynny wrth i bencampwriaeth y Chwe Gwlad gychwyn.
Fel rhan o bartneriaeth arbennig rhwng S4C a Virgin Media, gall cwsmeriaid Virgin Media TV fwynhau holl arlwy S4C ar deledu manylder uchel safonol.