Delwyn Sion yn perfformio un o glasuron Dafydd Iwan PAM FOD EIRA'N WYN ar Noson Lawen.
Gwyneth Glyn a Twm Morys â pherfformiad sensitif o CÂN Y GLOWR gan Dafydd Iwan ar Noson Lawen - cân sy'n mawrygu'r glowyr a'r gymdeithas lofaol yn Ne Cymru.
Ymuna Côr Seingar a'u harweinyddes Nicki Roderick â chriw'r Noson Lawen i ddiddanu'r gynulleidfa yn Llanbed gyda pherfformiad o YR HEN HEN HIRAETH gan Dafydd Iwan.
Côr Ysgol Bro Teifi yn mwynhau awyrgylch y Noson Lawen wrth iddyn nhw berfformio YMA MAE NGHALON gan Dafydd Iwan - cân o werthfawrogiad am ryfeddod natur a'r tymhorau.
Perfformiad pwerus Billy Thompson a Gwyneth Glyn o GWINLLAN A RODDWYD (Dafydd Iwan) gyda dyfyniad allan o BUCHEDD GARMON (Saunders Lewis) ar Noson Lawen.
Welsh Whisperer gyda chân tafod yn ei foch MAE DAFYDD IWAN YMA O HYD ar Noson Lawen arbennig i ddathlu pen blwydd Dafydd Iwan.
Elin Fflur a Billy Thompson yn perfformio ESGAIR LLYN ar Noson Lawen - geiriau arbennig Dafydd Iwan yn cofio am y tyddyn bach yn Sir Drefaldwyn lle y treuliodd sawl gwyliau yn ystod ei blentyndod.
Ymuna'r holl artistiaid gyda Dafydd Iwan i ganu medli o ddwy o'i ganeuon anthemig - CERDDWN YMLAEN ac YMA O HYD - mewn Noson Lawen arbennig i ddathlu ei ben blwydd.