25 Mehefin 2020
Mae tîm Garddio a Mwy yn creu rhywbeth arbennig i ddiolch i staff Ysbyty Bryn Beryl am eu gwaith di-flino.
21 Mawrth 2022
Bydd gêm gyfeillgar tîm Cymru yn cael ei ddarlledu'n fyw ar S4C ar 29 Mawrth.
22 Mawrth 2022
Bydd modd i wylwyr fwynhau S4C mewn Manylder Uwch o 28 Mawrth 2022 ymlaen.
24 Mawrth 2022
Mae S4C wedi llwyddo i gael deg enwebiad yng ngwobrau RTS Cymru eleni. Mae'r gwobrau yn dathlu rhagoriaeth mewn darlledu, cynnwys digidol a ffilmiau myfyrwyr ac yn cydnabod yr amrywiaeth eang o sgiliau a phrosesau sydd ynghlwm a chynyrchiadau o bob math.
25 Mawrth 2022
Mae S4C wedi cyhoeddi y bydda nhw'n matshio yr arian sy'n cael ei godi drwy werthiant tocynnau ar gyfer Cyngerdd Cymru ac Wcráin ar 2 Ebrill, yn ogystal ac incwm hysbysebu'r diwrnod.
29 Mawrth 2022
Cate Le Bon fydd yn dewis a dethol artistiaid blaenllaw yn y bennod nesaf o Curadur, mewn rhaglen arbennig awr o hyd.
12 Ebrill 2022
Llwyddodd S4C i gipio nifer o wobrau yn noson wobrwyo RTS Cymru.
Teulu'r Castell: Cyfres newydd am fenyw fusnes lleol a'i theulu sydd wedi prynu Castell Llansteffan ger Caerfyrddin - ac mae ganddynt gynlluniau mawr ar gyfer y dyfodol.
17 Mai 2022
Dros y misoedd nesaf, bydd cyfle i wylio perfformiadau byw gan rhai o fandiau mwyaf blaenllaw Cymru wrth i ail gyfres o Lŵp: Ar Dâp ddod i'r sgrin.
20 Mai 2022
I ddathlu Pwy Sy'n Galw?, sengl rap newydd Lloyd and Dom James sy'n cael ei ryddhau heddiw, mae S4C Lŵp wedi cynhyrchu fideo.
25 Mai 2022
Tynnu sylw at waith yr Urdd ar lwyfan cenedlaethol wrth i griw o bobl ifanc dawnus ddefnyddio eu lleisiau i ddangos cysylltiad trawsatlantig hanesyddol.
15 Mehefin 2022
Ym mis Ebrill eleni, cynhaliwyd cystadleuaeth Côr Cymru am y degfed tro. I nodi'r garreg filltir, bydd S4C yn dangos rhaglen arbennig.
22 Mehefin 2022
Rhaglen ddogfen DRYCH newydd yn datgelu'r datblygiadau diweddaraf ar daith pennaeth BBC Radio 1, Aled Haydn Jones, i fod yn rhiant.28 Mehefin 2022
Bydd rhaglen ddogfen newydd ar S4C, Llofruddiaeth Logan Mwangi, yn agor cil y drws ar ymchwiliad heddlu le'r oedd pob eiliad yn cyfri wrth chwilio am dystiolaeth.
30 Mehefin 2022
Am 9.00pm heno, mae'r ddogfen Llofruddiaeth Logan Mwangi, yn taflu goleuni ar ymgais Heddlu De Cymru i ennill cyfiawnder i Logan. Yn cynnwys deunydd ffilm na welwyd erioed o'r blaen o'r bachgen yn ei arddegau, Craig Mulligan, un o'r tri a gafwyd yn euog o'i lofruddiaeth.
9 Mawrth 2023
Bydd 'O'r Sgript i'r Sinema', sydd wedi'i ariannu gan Cymru Greadigol, yn meithrin talent i sgriptio ffilmiau Cymraeg, ac yn cefnogi cynhyrchu ffilmiau nodwedd yn y Gymraeg.
15 Mawrth 2023
Mae S4C a BBC Cymru Wales wedi comisiynu drama gomedi dywyll newydd o'r enw Pren ar y Bryn/Tree on a Hill. Wedi'i hysgrifennu a'i greu gan Ed Thomas, mae'r gwaith ffilmio wedi dechrau ar y gyfres chwe rhan.
7 Ebrill 2023
Mae Tisho Fforc?, un o raglenni Hansh, gwasanaeth ar-lein S4C wedi llwyddo i gipio gwobr yng ngwobrau New Voice Awards 2023 a gynhaliwyd yn Llundain neithiwr (nos Wener 6 Ebrill).
Mae Tisho Fforc?, un o raglenni Hansh, gwasanaeth ar-lein S4C wedi llwyddo i gipio gwobr yng ngwobrau New Voice Awards 2023 a gynhaliwyd yn Llundain neithiwr (nos Wener 6 Ebrill).
24 Mai 2023
Mwy Na Daffs a Taffs - Mae'r gyfres gan griw Hansh S4C yn ceisio chwalu'r ystrydebau am Gymru, gyda'r cyflwynydd Miriam Isaac yn dod â thri o selebs byd realiti y DU i Gymru am ddeuddydd - pwy? Brenhines y drag Blu Hydrangea; y gantores, model a brenhines Insta Tallia Storm; a'r cyflwynydd teledu a radio, Vick Hope.
25 Gorffennaf
Gall gwylwyr ddewis isdeitlau Cymraeg ar raglenni Newyddion S4C o fis Medi ymlaen.
10 Hydref 2023
S4C's International's inaugural Commercial Content Fund is up and running from today (Tuesday 10th October) and actively looking for projects and partners in Wales and Internationally.
Mae Cronfa Cynnwys Masnachol gyntaf S4C Rhyngwladol yn weithredol o heddiw ymlaen (dydd Mawrth, 10 Hydref) ac yn chwilio am brosiectau a phartneriaid yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
7 Tachwedd 2023
Dywedodd llefarydd ar ran S4C:
"Mae S4C yn croesawu'r bwriad sydd yn cael ei nodi fel rhan o Araith y Brenin, i gefnogi'r diwydiannau creadigol.
"Bydd cyflwyno Mesur y Cyfryngau yn y tymor Seneddol yma yn cadarnhau sefyllfa S4C fel darparwr cynnwys Cymraeg aml-blatfform ledled y DU a thu hwnt.
"Fe fydd y fframwaith newydd yn sicrhau bod ieithoedd brodorol, gan gynnwys Cymraeg, yn rhan o'r cylch gorchwyl newydd ar gyfer teledu gwasanaeth cyhoeddus yn y DU.
"Bydd y mesur yn ymestyn y gyfraith sy'n ymwneud â'r cyfryngau i wylio teledu ar-lein, a sicrhau bod S4C Clic ar gael ar setiau teledu cysylltiedig ac yn amlwg ar setiau teledu yng Nghymru.
"Fe fydd hyn yn ein galluogi ni i ddatblygu'n gwasanaethau ymhellach a rhoi cynnwys Cymraeg ar-alw ar y prif blatfformau ar draws y DU."
20 Tachwedd 2023
Mae Michaela Carrington, o Grughywel, Powys, wedi ennill prif wobr Cwis Bob Dydd, sef y defnydd o gar am flwyddyn.
21 Tachwedd 2023
Mae S4C yn gweithio mewn partneriaeth â'r Consortiwm arloesi cyfryngau Media Cymru i gynnig rhaglen hyfforddi arbenigol am ddim ar greu, ariannu, pecynnu a gwerthu fformatau byd-eang a fydd yn apelio at wylwyr teledu ledled y byd.
20 Tachwedd 2023
Mae'r actores Pobol y Cwm, Sera Cracroft, wedi siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf am ymosodiad rhywiol ddigwyddodd iddi pan oedd yn blentyn.
6 Chwefror 2024
Mae Cymro Cymraeg o Ben-y-bont ar Ogwr, sy'n un o dalentau disglair American College Football, eisiau gwireddu ei freuddwyd o chwarae yn yr NFL.
12 Mawrth 2024
Fe fydd ail gyfres o'r ddrama garchar boblogaidd Bariau i'w gweld ar S4C yn 2025, cynhyrchiad gan Rondo Media.
30 Ebrill
Bydd gwylwyr yn gallu gwylio rhaglenni S4C ar Freely, gwasanaeth ffrydio newydd ar gyfer y DU.