9 Mai 2024
Mae S4C wedi penodi Beth Angell yn Bennaeth Adloniant ac Adloniant Ffeithiol newydd.
12 Mai 2024
Côr Ifor Bach yw enillwyr cystadleuaeth gorawl fawreddog S4C Côr Cymru 2024.
28 Mai 2024
Gemau rygbi dynion a menywod Cymru dros yr haf ar S4C
Datganiad - Priodas Pymtheg Mil
5 Gorffennaf 2024
Mae angen gwneud llawer mwy o ymchwil i weld a yw hi'n deg neu beidio i ganiatáu menywod traws i gystadlu mewn categorïau benywaidd mewn chwaraeon, yn ôl gwyddonydd blaenllaw.
23 Gorffennaf 2024
Mae S4C a Sioe Frenhinol Cymru yn cydweithio i goffau un o ddarlledwyr blaengar Cymru.
Heddiw (Dydd Mawrth, 23 Gorffennaf) fe fydd adeilad S4C ar safle'r Sioe yn LLanelwedd yn derbyn enw newydd – Corlan Dai Llanilar - mewn teyrnged i'r diweddar Dai Jones fu'n wyneb cyfarwydd ar y sianel am flynyddoedd.
29 Gorffennaf 2024
Mae oriau gwylio S4C ar lwyfannau digidol S4C Clic neu ar iPlayer wedi cynyddu o bron draean mewn blwyddyn. Yn ei Adroddiad Blynyddol 2023-24 mae S4C yn nodi cynnydd o 31% o oriau gwylio ar-alw ers y flwyddyn gynt – y ffigwr gorau yn hanes y darlledwr.
20 Awst 2024
Mae S4C wedi gweld twf sylweddol yn nifer yr oriau gwylio a chyrhaeddiad y sianel dros wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol eleni (7 – 13 Awst) gyda ffigurau gwylio dros deirgwaith lefel wythnos arferol ar S4C.
Mae cynulleidfaoedd o bob oed wedi ymateb i'r rhaglenni ac roedd lefel y gwerthfawrogiad i'r holl gynnwys yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mhontypridd ar ei uchaf ers pum mlynedd ar draws platfformau'r sianel.