Iaith ar Daith: Chwe seleb sydd eisiau dysgu Cymraeg, chwe mentor adnabyddus a llwyth o sialensiau i brofi eu sgiliau newydd. Y cyflwynydd rhaglenni natur Steve Backshall yw'r cyntaf i fynd ar daith fythgofiadwy gyda'i fentor Iolo Williams.
Curadur: Cyfres newydd sy'n gwahodd pobl flaenllaw o'r sîn gerddoriaeth Gymraeg i ddewis a dethol perfformiadau gan artistiaid sy'n dylanwadu arnynt. Y tro hwn - y cerddor o Fachynlleth Cerys Hafana.
Canu Gyda Fy Arwr: Os fysech chi'n cael y cyfle i rannu llwyfan gydag unrhyw un, pwy fyddech chi'n ei ddewis? Dyma'n union sy'n digwydd mewn cyfres newydd ar S4C.
Calan Gaeaf Carys Eleri: Mae Calan Gaeaf ar y gorwel ond beth yw arwyddocâd yr ŵyl i ni fel Cymry? Carys Eleri sy'n darganfod a oes mwy o hanes i'r traddodiad na chodi ofn a hel losin.
Garddio a Mwy: Wrth inni edrych ymlaen at dymor y gwanwyn, gallwn hefyd edrych ymlaen at gyfres newydd o'r sioe boblogaidd am arddio a phethau da bywyd.
Bregus: Cyfres newydd. Hannah Daniel sy'n sôn am ei rhan fel Ellie yn y ddrama seicolegol dywyll a chyffrous hon.
Terfysg yn y Bae: Y cyflwynydd Sean Fletcher sy'n mynd ar daith i ddarganfod hanes terfysg hil 1919 ym Mae Caerdydd.
Am Dro: Pedair taith, pedwar cystadleuydd - ond dim ond un enillydd. Mae'n amser mynd Am Dro unwaith eto! Cyfres newydd.
Y Wal Goch: Mewn cyfres newydd, Yws Gwynedd, Mari Lovgreen, a Jack Quick fydd yn edrych ymlaen tuag at gystadleuaeth bêl-droed yr Ewros yr haf hyn.
DRYCH: Y Pysgotwyr: Rhaglen ddogfen sy'n cynnig cipolwg prin ar diwylliant hynafol, pysgota môr – y sialensiau, y peryglon a'r rhamant.
Eryri: Pobol y Parc: Cyfres newydd. Dewch i gwrdd â'r bobl sy'n byw, gweithio ac ymlacio ym Mharc Cenedlaethol Eryri sy'n dathlu 70 mlynedd eleni.
DRYCH: Rhondda Wedi'r Glaw: Rhaglen ddogfen sy'n edrych ar yr effeithiau dinistriol cafodd llifogydd Storm Dennis ar drigolion Cwm Rhondda ym mis Chwefror llynedd.
Cymru, Dad a Fi: Cyfres newydd. Bydd Connagh Howard, seren y gyfres Love Island, a'i dad Wayne yn ein tywys ar daith unigryw ar hyd ynysoedd Cymru. Bydd y ddau yn mynd ar daith o hunan ddarganfod, gan wynebu ambell i her, cwrdd â phobl newydd ac ymweld â rhannau anghyfarwydd o Gymru.
Y Fets: Mae Ystwyth Vets ar gyrion Aberystwyth yn agor y drysau i'r camerâu unwaith eto mewn cyfres newydd.
Pobol y Cwm: Mae drama yn y Deri – a bydd bywyd byth yr un peth i sawl un o'n hoff gymeriadau. Cyfweliad gydag Elin Harries sy'n chwarae rhan Dani Monk.
Eisteddfod T: Mi fydd Eisteddfod T yn cael ei gynnal yn ystod wythnos arferol yr Eisteddfod, o ddydd Llun, 31 Mai hyd at ddydd Gwener, 4 Mehefin. Ymunwch gyda'r cyflwynwyr Heledd Cynwal a Trystan Ellis-Morris mewn stiwdio arbennig yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog ar gyfer wythnos lawn o gystadlu a hwyl.
Ffit Cymru 6 Mis Wedyn: Pennod arbennig i weld ble mae pum Arweinydd FFIT Cymru 2021 arni. Ydyn nhw wedi parhau i ddilyn y cynllun a chadw'r pwysau i ffwrdd, 6 mis ers cychwyn ar eu taith trawsnewid a byw bywyd iach?
Pawb A'i Farn gyda'r Prif Weinidog: Mewn rhifyn arbennig, bydd Betsan Powys yn holi Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru a hynny o swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd.
Y Llinell Las: Cyfres newydd sy'n dangos yn union sut beth yw gweithio i Uned Plismona'r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru.
Guinness World Records Cymru: Rhaglen arbennig sy'n cofnodi ymdrechion arbennig y Cymry i dorri ambell i record byd. A churo neu beidio, mae pob ymgais yn dathlu agwedd unigryw ar draddodiad neu ddiwylliant Cymru.
DRYCH: Trelai, y Terfysg a Jason Mohammad: Dri deg mlynedd ar ôl terfysgoedd brawychus ar strydoedd Trelái yng Nghaerdydd, mae Jason Mohammad yn dychwelyd i'r stâd lle gafodd e ei fagu i ddarganfod pam ddigwyddodd y terfysg a sut mae'r cyfnod dal i effeithio ar bobol yr ardal heddiw.
Gwyliau Cartref: Cyfres newydd sy'n dilyn teuluoedd a grwpiau o ffrindiau wrth iddynt fynd ar wyliau yn eu milltir sgwâr.