Ensemble Ysgol Bro Myrddin sy'n perfformio trefniant o 'Bytholwyrdd' gan Tecwyn Ifan mewn noson arbennig i ddathlu pen-blwydd y cerddor yn 70 oed.
Ac Eraill sy'n ôl gyda'i gilydd i berfformio 'Tua'r Gorllewin' - y gân gyntaf i Tecwyn Ifan ysgrifennu ar eu cyfer - mewn pennod arbennig o'r Noson Lawen i ddathlu pen-blwydd y cerddor yn 70 oed.
Y cerddor o Lansannan, Jacob Elwy sy'n perfformio 'Angel' gan Tecwyn Ifan - cân gafodd ei hysbrydoli gan un o areithiau Emyr Llewelyn.
Yr actor a'r cerddor, Daniel Lloyd sy'n perfformio 'Ofergoelion' mewn noson arbennig i ddathlu pen-blwydd Tecwyn Ifan yn 70 oed.
Gyda chymorth ei frawd Euros Rhys ar y piano a band y Noson Lawen, Tecwyn Ifan sy'n perfformio'r anthem, 'Y Dref Wen' mewn pennod arbennig o'r Noson Lawen i ddathlu ei ben-blwydd yn 70 oed.
Daniel Lloyd sy'n perfformio trefniant arbennig Wyn Pearson o rai o ganeuon adnabyddus yr Opera Roc boblogaidd, Nia Ben Aur gafodd ei hysgrifennu a'i pherfformio gan rai o enwau mwyaf y byd roc a pop yma yng Nghymru yn y 70au megis Ac Eraill, Edward H. Dafis, Hergest a Sidan.
Y grŵp gwerin Pedair sef Gwyneth Glyn, Meinir Gwilym, Gwenan Gibbard a Sian James sy'n perfformio trefniant o 'Cân yr eos' gan Tecwyn Ifan mewn noson arbennig i ddathlu ei ben-blwydd.
Sioned Llewelyn o'r Efailwen sy'n canu fersiwn hyfryd o 'Ysbryd Rebeca' gyda chymorth Euros Rhys ar y piano mewn noson arbennig i ddathlu pen-blwydd Tecwyn Ifan yn 70 oed.
Y grŵp gwerin, Pedair sy'n diddanu cynulleidfa'r Noson Lawen gyda'u trefniant nhw o un o ganeuon Tecwyn Ifan, 'Cerdded 'mlaen'.
Casi Wyn sy'n perfformio trefniant hyfryd o 'Gwaed ar yr eira gwyn' gyda chymorth Sian James ar y piano mewn pennod arbennig o'r Noson Lawen i ddathlu pen-blwydd Tecwyn Ifan yn 70 oed.