Cynhaliodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru Martyn Phillips ail gyfarfod Bwrdd Ieuenctid URC y penwythnos diwethaf – yn Stadiwm Principality cyn Ddydd y Farn IV.
Mae prif hyfforddwr Cymru Dan 20 Jason Strange yn credu bod gan ei dîm y potensial i wella mwy eto cyn Pencampwriaeth Rygbi'r Byd dan 20 fis nesaf.
Er iddyn nhw fod ar ei hôl hi, sicrhaodd tim Ysgolion Cymru Dan 16 fuddugoliaeth dros Loegr dan 16 23-22 yng Nghanolfan Caerffili ar gyfer Rhagoriaeth Chwaraeon, Ystrad Mynach.
Mae prif hyfforddwr Cymru Gareth Williams yn siomedig ac yn ceisio cael atebion wedi perfformiad truenus ei dîm ym mhencampwriaeth Saith Bob Ochr Singapore, a'r gêm drychinebus yn erbyn Rwsia yn ffeinal y Powlen.
Bydd Cymru'n chwilio am ddiweddglo gwell wrth iddyn nhw chwarae yn rownd derfynol Cyfres Saith Bob Ochor y Byd HSBC y penwythnos hwn yn Llundain, ar ôl i Portiwgal chwalu eu gobeithion o fachu unrhyw dlysau ym Mharis drwy ennil ffeinal y Tarian.
Cyfweliad gyda Rhun Williams ar ol buddugoliaeth dan 20 Cymru dros yr Alban.
Y tim dan20 Cymru yn edrych ymlaen at Bencampwriaeth dan 20 y byd ym Mis Mehefin.
Cyfweliad gyda Dillon Lewis ar ol i Gymru dan 20 golli yn erbyn Seland Newydd.
Bydd Nigel Owens yn ymestyn ei record rhyngwladol yr haf yma wrth iddo ddyfarnu gem brawf yn ystod Pencampwriaeth hemisffer y de ac yna'r drydedd gem brawf rhwng Seland Newydd ac Awstralia am gwpan Bledisloe.
Mae'r grwpiau wedi eu cyhoeddi ar gyfer cystadleuaeth 7 bob-ochr y Gemau Olympaidd yn Rio de Janeiro'r haf yma. Bydd 12 gwlad yn cystadlu yng nghystadleuaeth y dynion ac yng nghystadleuaeth y merched.
Cadarnhaodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Martyn Phillips bydd Cymru'n chwarae gemau tîm A y tymor nesaf am y tro cyntaf ers 2002.
Bydd bois rheng ôl Cymru, Dan Lydiate a James King yn cael gwybod yn ystod yr wythnosau nesaf pryd byddan nhw'n debygol o allu dychwelyd i chwarae i'r Gweilch yn y tymor newydd.
Mae Rob McCusker, cyn chwaraewr rhyngwladol yn y rheng ol, yn dychwelyd i Gymru er mwyn cynrychioli'r Gweilch.
Mae blaenasgellwr y Gleision Ellis Jenkins yn edrych mlaen at y sialens o gystadlu am le nid yn unig yn nhim y rhanbarth ond hefyd yng ngharfan Cymru yn ystod y tymor newydd.
Byd yr Ariannin yn anelu at gymryd lle Cymru ymysg detholion y byd yn ystod Gemau'r Hydref eleni.
Mae garfan Cymru o dan 18 oed yn ymweld â Hamburg yn Ne Affrica ac yn chwarae rygbi gyda'r plant lleol.
Mae Undeb Rygbi Cymru yn falch o gefnogi penodiad Warren Gatland fel Prif Hyfforddwr tim Llewod Prydain ac Iwerddon ac hefyn yn falch iawn o gyhoeddi mai Rob Howley fydd yn camu i rôl Prif Hyfforddwr Cymru yn ei absenoldeb.
Cyhoeddodd Prif Hyfforddwr Cymru Rob Howley bydd hyfforddwr cefnwyr ac olwyr y Gleision Matt Sherratt yn ymuno gyda'r Garfan Genedlaethol, ac yn rhannu'i amser rhwng y 2 rôl yn ystod y paratoadau ar gyfer Cyfres Under Armour yr Hydref sy'n cychwyn yn erbyn Awstralia yn Stadiwm Principality ar y 5ed o Dachwedd.
Pan fydd yn cyhoeddi ei garfan i'r Gyfres Under Armour ar Hydref 18fed, bydd y Prif Hyfforddwr Rob Howley hefyd yn cyhoeddi y tri dewis allanol ('wildcard') ar gyfer yr ymgyrch.
Cynlluniau'r hyfforddwyr ar sut i wella tîm rygbi dan 18 Cymru.
Mae Grŵp Undeb Rygbi Cymru wedi ail-fuddsoddi £ 33.1m mewn i'r gêm genedlaethol sy'n cyfateb i gynnydd o 11% dros y flwyddyn flaenorol yn ôl ei Adroddiad Blynyddol diweddaraf.
Bydd Sam Warburton yn holliach er mwyn bod yn gapten dros Gymru yng ngemau rhyngwladol Cyfres Under Armour fis nesaf.
Cyhoeddodd Yr Ymddiriedolaeth Elusennol (MSCT) bod cefnogwyr rygbi yn Stadiwm Principality wedi helpu i greu mwy na phum miliwn o bunnoedd i gymunedau yng Nghymru.
Mae Undeb Rygbi Cymru yn falch o gyhoeddi bod Sara Davies wedi ei phenodi fel Rheolwr Tîm a Chydlynydd Dynion Saith Bob Ochor Cymru, Dan 20 a Dan 18.
Gwyliwch y fideo neu cliciwch isod am fanylion ar sut i ennill y tocynnau i'r gêm gyffrous hon!
Dyma gyfle i ennill 2 docyn i weld Cymru yn erbyn Awstralia yn Stadiwm Principality ar Dachwedd 5 ed, 2016. Bydd y cyfle i gymeryd rhan yn cau ddydd Gwener, 21 Hydref 2016, pob lwc!