22 Rhagfyr 2022
Wrth i flwyddyn arall dod i ben, mae pawb yn edrych ymlaen at ddathlu'r Nadolig gyda theulu a ffrindiau.
Mae gwledd o raglenni arbennig ar S4C a S4C Clic dros y Nadolig i dwymo calonnau a dathlu hwyl yr ŵyl.
Mae rhywbeth ar gyfer pob aelod o'r teulu - felly dyma rhai o'r uchafbwyntiau sydd ar gael i wylwyr S4C dros y Nadolig ...
GWESTY ADUNIAD: NADOLIG
Mewn rhaglen Nadoligaidd arbennig, mae wynebau cyfarwydd yn dod i Gwesty Aduniad i gael Nadolig i'w chofio eleni.
Mae'r canwr opera Wynne Evans yn gofyn i'r Gwesty am help wrth iddo chwilio am deulu gwaed rhywle yng Ngwlad Belg.
Yr actores a pherfformwraig, Gillian Elisa, sydd yn diolch i rhywun arbennig am ei gymorth ar ôl damwain difrifol, ac mae'r seren Broadway Mark Evans am gael aduniad gyda rhywun a newidiodd ei fywyd ugain mlynedd yn ôl.
Bydd y tenor Rhys Meirion yn dod a theuluoedd o'r Wcrain sydd bellach yn byw yng Nghymru ynghŷd yn y Gwesty ar gyfer y Nadolig.
Noswyl Nadolig 24 Rhagfyr 9.00 yh
DEIAN A LOLI
Bydd yr efeilliaid direidus sydd â phwerau hudol yn ôl am bennod arbennig o Deian a Loli ar Noswyl Nadolig – Deian a Loli ac Ysbryd y Nadolig (am 7.20 y bore a 7.00 yr hwyr).
Mae hi'n noswyl Nadolig, ac wrth gyfarfod â milwr bach o'r enw Arwen mae Deian a Loli'n dysgu bod 'na argyfwng – mae Ysbryd y Nadolig wedi diflannu a heb hwnnw fydd y Nadolig wedi'i ganslo.
Rhaid helpu Arwen ddod o hyd i Ysbryd y Nadolig reit sydyn cyn i'r Nadolig ddod i ben am byth!
A fydd Deian a Loli'n medru achub yr Ŵyl? Bydd digon o hud a lledrith yn y rhifyn estynedig yma o'r gyfres sy'n ffefryn ymysg y teulu i gyd.
Noswyl Nadolig 24 Rhagfyr 7.20yb and 7.00yh
NOSON LAWEN: NADOLIG Y CYMOEDD
Shelley Rees fydd yn dathlu'r Nadolig yng nghwmni rhai o dalentau gorau Cymry y Cymoedd.
Bydd gwledd o adloniant i gynhesu'r galon gyda Delwyn Siôn, Bethan McLean, Rhydian Jenkins, Angharad Rhiannon, Côr Bro Taf, Noel James, Only Men Aloud a Calan.
Noswyl Nadolig 24 Rhagfyr 8.00yh
TUDUR OWEN: GO BRIN
Mae'r byd a Chymru wedi newid am byth ac mae Tudur wedi bod yn ceisio gwneud synnwyr or cyfan.
Ydi'r byd angen bod mwy diog? Fydd Lloegr byth yn wlad annibynnol?
A ddylai plismyn iaith wisgo iwnifforms? Mae Tudur yn gofyn y cwestiynau yma a llawer mwy yn ei sioe stand yp newydd, wedi ei ffilmio o flaen cynulleidfa fyw yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli. Ond oes ganddo atebion? Go brin!
Dyma Tudur Owen, nawddsant comedi Cymru, yn perfformio'r sioe stand yp newydd o flaen cynulleidfa fyw a bywiog.
Noson Nadolig, 25 Rhagfyr 9.00
YR AMGUEDDFA
Bydd ail gyfres o'r ddrama lwyddiannus Yr Amgueddfa yn siŵr o swyno gwylwyr S4C dros y Nadolig wrth i'r cyffro symud allan o'r Brifddinas i Orllewin Cymru – ardal llawn hud a lledrith!
Yn y gyfres gyntaf cafodd y prif gymeriad Della Howells (Nia Roberts), cyfarwyddwr cyffredinol yr Amgueddfa yng Nghaerdydd, ei thynnu mewn i fyd tywyll a pheryglus trosedd celf.
Yn yr ail gyfres, mae Nia Roberts yn ôl fel Della ac mae hi wedi cael secondiad i amgueddfa mewn tref wledig yng ngorllewin Cymru ac yn byw gyda'i chariad Caleb (Steffan Cennydd) mewn hen dŷ traddodiadol sy'n hollol wahanol i'r tŷ teuluol moethus yng Nghaerdydd.
Trosedd celf oedd wrth galon cyfres gyntaf Yr Amgueddfa - ac mae'r elfen yna o drosedd celf dal yna o dan y wyneb.
Mae'r gyfres wedi cael ei ffilmio mewn sawl lleoliad eiconig yn Sir Gâr sef Amgueddfa Sir Gâr yn Abergwili, Gerddi Botaneg Cymru yn Llanarthne, ac yn cyffwrdd a chwedl Llyn y Fan Fach – sef lleoliad stori'r fenyw yn y llyn a Meddygon Myddfai.
Bydd bocs set y gyfres gyntaf ar gael unwaith i bennod gyntaf Yr Amgueddfa ddarlledu ar 26 Rhagfyr.
Diwrnod San Steffan 26 Rhagfyr 9.00
POBOL Y CWM
Mae Nadolig yng Nghwmderi yn pob tro llawn sypreisis - da a drwg! Ond mae anrheg Nadolig go arbennig i ffans Pobol y Cwm dros y Nadolig wrth i ddau wyneb cyfarwydd iawn dychwelyd i'r Cwm sef Dai a Diane Ashurst (Emyr Wyn a Victoria Plucknett).
Wrth i'w chynlluniau Nadolig fynd ar chwâl, a fydd Kelly'n difaru troi at hen ffrind am gysur?
Mae un anrheg arbennig yn arwain at wrthdaro mawr yn nheulu'r Whites ac mae pethau'n mynd yn flêr rhwng Eifion a Tyler.
Mae Jason a Kelly'n ceisio symud heibio cawlach diwrnod Nadolig, ond a yw Kelly'n cuddio rhywbeth?
Aiff Sioned i nôl rhai o'i hen deganau i Huwi John, ond mae rhywbeth am hyn yn gwneud i Eileen deimlo'n chwithig.
Wrth i'r ddau rannu eu galar, mae 'na obaith y gall DJ a Sioned ddeall ei gilydd unwaith eto.
Mae Gaynor wedi cael digon ar ddiogi Hywel ac yn benderfynol o drefnu rhywbeth cyffrous.
Rydym yn dymuno ffarwel i un o drigolion Cwmderi wrth i Eifion (Arwel Davies) gadael o dan gwmwl.
Dydd Nadolig 25 Rhagfyr, 8.00-9.00yh
Nos Lun – Nos Mercher, 27-29 Rhagfyr 8.00yh
AM DRO SELEBS
Rydym ni'r Cymry yn hen gyfarwydd am fynd am dro - ac mae gennym ni obsesiwn am yr awyr agored - a chloncan a bwyta.
Felly beth sy'n digwydd pan mae pedwar seleb yn mynd am dro? Wel, pob math o shenanigans mae'n debyg!
Yn Am Dro: Selebs ar Nos Sul 26 Rhagfyr ar S4C fe fydd y gyflwynwraig chwaraeon Catrin Heledd; prif leisydd y band Gwilym Ifan Pritchard; yr actor a'r cerddor Dewi Pws a'r actores Donna Edwards yn arwain taith o amgylch eu milltir Sgwâr.
Mae Donna Edwards yn dechrau'r rhaglen gyda thaith o amgylch Merthyr Tudful. Mae'r daith yn dechrau yng Nghastell Cyfarthfa ac yn mynd ar hyd llwybr natur Taf Fechan.
Mae Catrin Heledd yn dod o ardal Pentyrch yng Nghaerdydd ac mae hi'n mynd a'r grŵp yr holl ffordd i ben Mynydd y Garth sy'n cynnig golygfeydd godidog dros Gaerdydd a Bro Taf.
I Ynys Môn nesaf ac mae Ifan Pritchard yn arwain taith ar hyd arfordir Rhoscolyn. Mae'r rhaglen yn dod i ben gyda thaith Dewi Pws yn Nefyn, Penllyn.
Diwrnod San Steffan 26 Rhagfyr 8.00
PEN PETROL NADOLIG
Mewn pennod arbennig o Pen Petrol, bydd aelodau talentog y grŵp ceir Unit Thirteen, ym Mangor, yn ceisio cyflawni gwyrth Nadoligaidd.
Byddan nhw'n gosod her i'w hunain, i geisio atgyfodi hen gar sydd ar fin cael ei roi ar y domen scrap.
Dros gyfnod byr a gyda chyllideb gyfyng - a fydd gofal a chariad y criw yn ddigon i roi bywyd newydd i'r hen VW Golf Mk4? Neu a fydd hwn yn brosiect amhosib?
Diwrnod San Steffan 26 Rhagfyr 10.00yh
ROWND A ROWND
Mae hi wedi bod yn flwyddyn ddigon cythryblus i rai o drigolion Glanrafon, a bydd dipyn o ramant yn ogystal â drama i ddod.
Mae Mathew ac Anest ail-gydio yn eu perthynas dirgel mae'r ddau'n gorfod bod yn ofalus iawn ond cawn yr argraff bod y rhwyd yn cau amdanynt.
Wedi siom ben bore i Dani mae Jason yn camu i'r adwy a'r ddau'n mynd ar drip siopa nwyddau babis.
Caiff y ddau ddiwrnod i'r brenin wrth iddyn nhw roi'r byd yn ei le a chlosio'n arw wrth drafod rôl gyffrous Jason ym mywyd Dani a'r babi.
Nos Fawrth 27 Rhagfyr, 8.30
PRIODAS PUM MIL
Priodas llawn hwyl yr ŵyl sydd ar dop rhestr Nadolig Emma a Lee o Flaenau Ffestiniog, wrth iddyn nhw - a'u tri phlentyn - serennu ym mhennod arbennig o Priodas Pum Mil Dolig.
Bydd y ferch hynaf, Cadi, yn pobi'r mins peis, bydd y mab, Tomos, yn adrodd araith arbennig ac mi fydd digon o swyddi i gadw Non, y chwaer fach yn brysur wrth i'r plant gymryd rôl ganolog yn y diwrnod arbennig.
Yn ogystal â hyn oll, bydd perfformiad cerddorol arbennig gan hoff fand y briodferch.
Nos Fawrth 27 Rhagfyr, 9.00
COLLEEN RAMSAY: BYWYD A BWYD
I Colleen Ramsey, merch o Gaerfilli sydd wedi byw ar draws y byd yn sgil gwaith ei gwr, Aaron, mae bywyd a bwyd yn dod law yn llaw.
Wrth iddi'n tywys trwy ei hoff ryseitiau yn Colleen Ramsey – Bywyd a Bwyd, cawn ein croesawu i'w chegin i weld sut mae'n cydbwyso bywyd teuluol prysur gyda pharatoi bwyd mewn ffordd hawdd, a hwyliog.
Bydd teulu a ffrindiau Colleen yn dod i fwynhau'r paratoi yn ogystal â'r prydau.
"Pam rwy'n gweld rhywun yn bwyta'r bwyd a mwynhau, mae'n gwneud i mi deimlo mai dyma fy mhwrpas," meddai Colleen. "Os oes rhywun yn gofyn i fi am bryd arall o fwyd, dyna'r compliment mwyaf".
Gwelwn sut all un rysáit blasus arwain at sawl pryd i arbed amser ac ymdrech.
Cawn hefyd flas ar y bwydydd mae Colleen a'i theulu yn mwynhau, sut mae'n creu prydiau sy'n apelio at bobol neu blant ffyslyd a phrydau sy'n osgoi gwastraff a sut mae creu bwyd sy'n edrych mwy cymhleth a 'ffansi' nag ydyn nhw.
Nos Fercher 28 Rhagfyr, 8.25
GOGGLEBOCS DOLIG
Yn dilyn llwyddiant Gogglebocs Cymru, bydd rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru yn ymuno a'r cast arferol ar gyfer rhaglen Nadolig arbennig.
Yr enwogion a fydd yn rhan o Gogglebocs Dolig yw: y cyflwynwyr radio Huw Stephens a Sian Eleri; y cyflwynwyr Emma Walford a Trystan Ellis-Morris; Maggi Noggi a'r digrifwr Kiri Pritchard-McLean; y cyflwynydd rygbi Sarra Elgan a'r cyflwynydd Alun Williams; Melanie Owen, Mali Ann Rees a Jalisa Andrews sef cyflwynwyr y podlediad Mel, Mal, Jal; y grŵp roc o Gaerfyrddin, Adwaith, sydd wedi ennill Gwobr Cerddoriaeth Cymru ddwywaith; y cogydd enwog, Chris 'Flamebaster' Roberts a'i fam; a'r actores, y gantores a'r digrifwr Carys Eleri a'i mam.
Mae'r cyflwynydd a'r digrifwr stand-yp, Tudur Owen, yn dychwelyd i leisio.
Bydd Gogglebocs Dolig ar S4C nos Fercher 28 Rhagfyr am 9.00pm, yna bydd penodau wythnosol o Gogglebocs Cymru yn parhau ar ddydd Mercher drwy gydol Ionawr 2023.
Nos Fercher 28 Rhagfyr am 9.00pm
Clwb Rygbi - Dydd San Steffan a Dydd Calan
Chwaraeon
Bydd digon o chwaraeon i'w fwynhau ar draws blatfformau S4C dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.
Yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig BKT, bydd rhanbarthau rygbi Cymru yn mynd benben a'i gilydd mewn gemau darbi.
Bydd Clwb Rygbi yn dangos Gweilch v Scarlets am 5.00yh ar Ddydd San Steffan, ac yna Scarlets v Dreigiau am 5.00yh ar Ddydd Calan.
Yn yr Uwch Gynghrair Grŵp Indigo, bydd y gêm rhwng Rygbi Gogledd Cymru a Merthyr i'w gweld ar S4C am 5.30yh ar nos Fawrth 27 Rhagfyr.
Bydd Sgorio yn dod â'r pêl-droed diweddaraf o'r Cymru Premier JD. Bydd Y Fflint v Caernarfon yn cael ei ddangos ar-lein am 7.45yh ar nos Wener 23 Rhagfyr, cyn y gêm ddarbi rhwng Cei Connah a'r Fflint, am 2.30yh ar Ddydd San Steffan.
Bydd y ddwy gêm i'w gweld ar S4C Clic a chyfrifon YouTube a Facebook Sgorio.
Yna, ar ddydd Gwener 30 Rhagfyr am 5.45yh, bydd y gêm rhwng Y Drenewydd ac Aberystwyth yn cael ei ddangos ar S4C, S4C Clic a chyfrifon Sgorio.
S4C CLIC
Bydd sawl clasur yn ymddangos ar S4C Clic ac iPlayer ar ôl iddynt ddarlledu ar S4C dros y Nadolig sef C'mon Midffild: Nadolig Llawen? a C'mon Midffild: Bryn o Briten sydd ar gael i wylio nawr tan ddiwedd Ionawr. Bydd Midffild: Y Mwfi ar gael ar 24 Rhagfyr.
Bydd y clasur o ffilm sef Y Dyn Nath Ddwyn y 'Dolig a Goreuon Ryan a Ronnie ar gael o 25 Rhagfyr ymlaen. Fe fydd Licyris Olsorts: Pwy sy'n Dwad Dros y Bryn ar gael o 26 Rhagfyr ymlaen.
Bydd gwledd o ddrama ar S4C Clic gan gynnwys y ddwy gyfres o Bang a'r ddwy gyfres gyntaf o Un Bore Mercher.
Gallwch ddal i fyny gyda'r ddrama drosedd celf Yr Amgueddfa cyn i'r Amgueddfa Cyfres 2 dechrau ar 26 Rhagfyr – bydd bocs set y gyfres gyfan ar gael ar ôl i'r bennod gyntaf darlledu.