30 Awst 2007
Heddiw (30 Awst) cyhoeddodd S4C ei chynlluniau ar gyfer darlledu cynhwysfawr o Gwpan Rygbi’r Byd 2007 sy’n cynnwys pecyn o raglenni byw, uchafbwyntiau cyffrous, dadansoddi treiddgar a chip tu ôl i’r llenni ar garfan Cymru. Cyhoeddwyd y newyddion mewn lansiad arbennig a gynhaliwyd ym mhencadlys hyfforddi carfan Cymru ym Mro Morgannwg.
Bydd y Sianel yn dangos 25 gêm yn fyw gan gynnwys pob gêm yng Ngrŵp B Cymru, rhai gêmau o’r grwpiau eraill, holl gêmau rownd yr wyth olaf, y rowndiau cynderfynol, gêm y trydydd safle a’r rownd derfynol ym Mharis ar 20 Hydref.
Bydd y cyn gapteiniad Ieuan Evans a Gwyn Jones, ynghyd â’r cyn chwaraewyr rhyngwladol Arthur Emyr a Derwyn Jones yn aelodau allweddol o bac cyflwyno Cwpan Rygbi'r Byd 2007, tra y bydd cyn gapten arall, Jonathan Davies yn cyflwyno pum rhifyn Cwpan Rygbi’r Byd arbennig o’i sioe boblogaidd Jonathan.
Gareth Roberts ac Arthur Emyr fydd yn cyflwyno’r gêmau gyda Wyn Gruffydd a Derwyn Jones yn y blwch sylwebu. Bydd Ieuan Evans a Gwyn Jones yn cynnig barn arbenigol a dadansoddi craff tra bo Eleri Siôn a Sarra Elgan yn darparu adroddiadau ar leoliad.
Bydd y cyfan yn dechrau ar 7 Medi gyda’r holl gyffro cyn y gêm ym Mharis a darllediad byw o’r gêm agoriadol rhwng Ffrainc a’r Ariannin o Stade de France.
Cawn hefyd gyfle ecsgliwsif i ddilyn carfan rygbi Cymru mewn tair rhaglen ddogfen bry-ar-y-wal, Gwesty Cymru. Bydd y rhaglenni yn cofnodi paratoadau'r chwaraewyr, yr hyfforddwyr a’r holl griw ar gyfer y gystadleuaeth.
Rygbi fydd thema nifer o raglenni adloniant a phlant ar S4C yn ystod y gystadleuaeth hefyd. Bydd Beti George a Gary Slaymaker yn cyflwyno rhaglenni cylchgrawn rygbi arbennig yn cloriannu ymateb a sylwadau'r cefnogwyr. Bydd cyfres newydd o’r rhaglen sgiliau rygbi i blant, Rygbi 100% yn cynnwys dosbarthiadau meistri gan fewnwr Cymru, Dwayne Peel.
I gyd-fynd â’r rhaglenni Cwpan Rygbi’r Byd 2007 bydd gwefan sy’n cynnwys y newyddion diweddaraf, trefn y gêmau, canlyniadau, cystadlaethau, proffiliau a blogs - s4c.co.uk/rygbi.
Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C: "Mae S4C yn darparu mwy na 70 awr o raglenni ar gyfer cystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd 2007, gan adeiladu ar ein portffolio helaeth o ddarlledu chwaraeon. Bydd S4C yn cynnig darlledu o’r radd flaenaf i adlewyrchu cystadleuaeth o’r safon uchaf.”
Diwedd
Nodyn i Olygyddion
Gellir gwylio darllediadau S4C o Gwpan Rygbi'r Byd 2007 yng Nghymru ar analog ac ar ddigidol – ar deledu daearol, lloeren a chebl. Y tu allan i Gymru bydd ar gael ar Sky 134.
Cwpan Rygbi’r Byd 2007
Cynhyrchiad Sunset & Vine Cymru ar gyfer S4C
Jonathan
Cynhyrchiad Avanti i BBC Cymru ar gyfer S4C
Gwesty Cymru
Cynhyrchiad SMS ar gyfer S4C
Rygbi 100%
Cynhyrchiad Cwmni Da ar gyfer S4C