14 Medi 2007
Pobl yw pethau'r cyflwynydd radio a theledu profiadol Hywel Gwynfryn. Mae yn ei elfen felly wrth iddo ymuno â thîm o gyflwynwyr Dechrau Canu Dechrau Canmol ar gyfer cyfres newydd.
Mewn rhaglen estynedig nos Sul, 16 Medi bydd Hywel yn sgwrsio â’r Prifardd a’r Archdderwydd newydd Dic Jones mewn cyfweliad arbennig a ffilmiwyd ar faes Eisteddfod Genedlaethol Sir y Fflint. Yn ddiweddarach yn y gyfres bydd hefyd yn cyflwyno eitem o Wersyll yr Urdd, Llangrannog sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 75 oed eleni.
Mae gyrfa Hywel Gwynfryn fel darlledwr yn pontio cyfnod sydd bron yn cyfateb i ddyddiad darlledu pennod gyntaf Dechrau Canu Dechrau Canmol nôl yn 1961.
Dechreuodd fel cyflwynydd teledu ar raglen y BBC Heddiw yn 1964 ac ers hynny mae wedi bod yn wyneb ac yn llais cyfarwydd ar y teledu a’r radio. Heddiw mae’n un hanner o’r ddeuawd boblogaidd Hywel a Nia ar raglen ddyddiol Radio Cymru. Ond sut mae’n edrych ymlaen at gamu nôl o flaen y camera?
“Dwi’n edrych ymlaen yn fawr i fod yn rhan o’r tîm. Fe fydda i yn gwneud y math o gyfweliadau dwi’n fwynhau eu gwneud sef siarad a thrafod bywydau pobl. O’m profiad i mae pobl yn barod i agor eu calonnau a sôn am eu profiadau a’r ffordd y maen nhw wedi llwyddo i oroesi. I rai pobl sy’n gwylio neu yn gwrando ac yn mynd trwy’r twnnel, efallai bod hyn yn gysur mawr iddynt ac yn help i weld rhywfaint o oleuni y tu hwnt,” meddai.
Yn ôl Hywel, ei fagwraeth a’i gefndir Ysgol Sul a’i paratôdd ar gyfer y byd cyhoeddus. “Yng Nghapel Smyrna, Llangefni roeddan ni’r plant yn cael ein hannog i sefyll yn y Sêt Fawr i ddweud adnodau a chymryd rhan yn y gwasanaethau drwy ddarllen o’r Beibl a dweud gweddi. Roedd sefyll o flaen cynulleidfa fel hyn yn magu hyder a meithrin sgiliau cyfathrebu rhywun.”
Bu i’r Capel hefyd fedi diddordeb Hywel yn y byd actio ac yn aml roedd yn cymryd rhan yn Nrama’r Geni, cynyrchiadau yn yr ysgol neu Theatr Fach Llangefni. Ond er mai bod yn Athro Drama oedd ei fwriad wedi gadael y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd, daeth cynnig i fynd i’r byd darlledu ac “fe es am y cyfle yn hytrach na’r sicrwydd.”
Erbyn hyn mae Hywel, sy’n dad i saith o blant, wedi hen ymgartrefu yn y Brifddinas ac yn mynychu Capel Minny Street yng Nghaerdydd.
“Mae mynd i’r Capel yn gwneud i mi feddwl am fy nghyfrifoldeb cymdeithasol i eraill. Mae lot o hyn i’w wneud gyda gweinidogaeth y Parchedig Owain Llŷr a’r cenadwri ystyrlon y bydd o’n ei roi yn ei bregethau,” ychwanega.
Dechrau Canu Dechrau Canmol
Nos Sul, 16 Medi, 8.10pm, S4C
Isdeitlau Cymraeg a Saesneg ar gael
s4c.co.uk/dechraucanu. Ar gael hefyd ar fand llydan – s4c.co.uk/gwylio