Bydd gwefan newydd yn cynnig gwasanaeth rhad ac am ddim a fydd yn galluogi pobl i ailgwrdd â hen ffrindiau trwy ddefnyddio eu ffotograffau personol eu hunain.
Mae’r wefan - lleaethpawb.com - a lansir yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint yr wythnos hon, yn cynnwys amrywiaeth fawr o hen ffotograffau. Trwy chwilio yn ôl cyfnod, lleoliad ac enw, bydd yn bosibl i bobl gysylltu eto â hen ffrindiau a chlywed beth yw eu hanes ers i’r llun gwreiddiol gael ei dynnu.
“Os edrychwch ar unrhyw hen lun – boed yn drip dosbarth, noson allan neu’n gêm rygbi neu bêl-droed fawr - rydych yn dechrau meddwl yn syth beth sydd wedi digwydd i’r bobl yn y llun,” meddai cynhyrchydd y wefan, Non Griffith o gwmni cynhyrchu Cwmni Da.
“Rydym i gyd yn gwybod sut mae gwefannau fel Friends Reunited a Facebook wedi dal dychymyg y cyhoedd, ond yr hyn sy’n unigryw am lleaethpawb.com yw ei bod i gyd yn ymwneud â lluniau ffotograff,” ychwanega.
Mae tîm lleaethpawb.com yn apelio i’r cyhoedd i ddod â’u hen ffotograffau i Bafiliwn S4C ar faes yr Eisteddfod. Bydd y tîm yno i ddangos sut mae’r wefan yn gweithio a bydd cyfle i sganio cannoedd o wynebu o hen luniau ffotograff.
Mae gwefan lleaethpawb.com yn cyd-fynd â chyfres deledu newydd o’r enw Lle Aeth Pawb? i’w darlledu ar S4C yn 2008. Yn union fel mae’r wefan yn anelu at ailgynnau hen atgofion ac ailgynnull hen ffrindiau, fe fydd y gyfres chwe rhan yn edrych ar y stori tu ôl i bob llun.
Cwmni Da, sydd wedi’i leoli yng Nghaernarfon, Gwynedd, sydd y tu ôl i’r wefan a’r gyfres deledu.
Diwedd
Nodiadau i Olygyddion
Gall ymwelwyr â phafiliwn S4C gael cyfle i weld sut y bydd eu hwynebau yn heneiddio dros y blynyddoedd. Mae tîm lleaethpawb.com, gyda chymorth meddalwedd heneiddio cyfrifiadurol arloesol, yn gallu cynhyrchu delweddau jpeg sy’n dangos sut y bydd wynebau mor ifanc â chwech oed yn gallu edrych pan yn 72 oed.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?