S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cefn Gwlad yn dathlu chwarter canrif ar faes Y Sioe

25 Gorffennaf 2007

 Mae cyfres fytholwyrdd S4C Cefn Gwlad yn dathlu ei phen-blwydd yn chwarter canrif eleni ac mae’r cyflwynydd Dai Jones, Llanilar a’r criw yn dal i fyrlymu gyda syniadau am fwy o raglenni.

Ar ôl 25 mlynedd a 450 o raglenni, mae brwdfrydedd y criw cyn gryfed ag erioed ac mae’r nod yn dal yr un - i ddod â chymeriadau mwya’ lliwgar cefn gwlad Cymru i’r sgrîn ar S4C.

Dai Jones fu’n cyflwyno Cefn Gwlad bron o’r cychwyn ac ar fferm y teulu adre’ yn Berthlwyd, Llanilar y ffilmiwyd rhaglen gyntaf Dai i’r gyfres. “Roedd y mab John Ifor yn chwech oed ar y pryd ond erbyn heddiw mae’n rhedeg y fferm gyda’i fam, Olwen,” meddai Dai.

Roedd Dai eisoes yn adnabyddus fel cyflwynydd y cwis teuluol Siôn a Siân, pan ofynnodd y cynhyrchydd/gyfarwyddwr, y diweddar Geraint Rees iddo gymryd yr awenau ar Cefn Gwlad.

“Cefais y cyfle i roi fy stamp fy hun ar y rhaglenni a’r bwriad o’r cychwyn oedd mynd ar ôl cymeriadau cefn gwlad Cymru a chlywed eu storïau,” meddai Dai.

Chwarter canrif ymlaen, oes ‘na brinder cymeriadau yng Nghymru heddiw? Nag oes, yn ôl Dai, er fod natur y cymeriadau wedi newid. “Mae’r ffordd o fyw wedi newid, felly mae’r math o gymeriadau welwch chi heddiw yn wahanol. Mae’r adegau caled ym myd amaeth yn y blynyddoedd diweddar wedi creu cymeriadau cryf ymhlith y ffermwyr ifanc,” meddai.

A beth am Dai ei hunan – ydy e’n edrych ymlaen at wneud chwarter canrif arall o raglenni? “Mi fydda i’n 64 yn yr hydref. Mae’n beth da bod fy nhafod i ar dop fy nghorff a tra bydd hwnnw’n dal i weithio fe alla i ddal ati,” chwardda Dai, sydd ar hyn o bryd yn ffilmio cyfres newydd ar gyfer y flwyddyn nesaf.

I berson sy’n casáu uchder, dŵr a chathod, dydy cyflwyno Cefn Gwlad ddim wedi bod yn hawdd bob amser. Er hynny, fel rhan o’i waith ar y gyfres, mae Dai wedi dringo Tryfan yn Eryri, un o fynyddoedd uchaf Cymru ac wedi dysgu sgïo. Bu Cefn Gwlad hefyd yn teithio ymhell o adref mewn gwledydd fel Affrica a Phatagonia er mwyn dod â hanes Cymry fel y diweddar blismon a naturiaethwr, Ken Williams o Fôn a thrigolion y Wladfa i’r sgrin.

Ymhlith y cymeriadau mwya’ trawiadol a welwyd ar Cefn Gwlad dros y blynyddoedd, y ddau sy’n dod yn syth i’r cof, yn ôl Dai, yw Don Garreg Ddu o Lanraedr-ym-Mochnant a Johnny Moch, prynwr moch o Sir Fôn. “Roedd y ddau yn gymeriadau mor ddigri a diddorol ac fe wnaeth y rhaglenni hynny argraff fawr,” medd Dai. Enillodd rhaglen Don Garreg Ddu wobr yn yr Ŵyl Ffilm a Theledu Celtaidd.

Cydnabuwyd y cyfraniad a wnaethpwyd gan Dai i amaethyddiaeth yng Nghymru gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru bedair blynedd yn ôl drwy ei ddewis yn enillydd prif wobr y Gymdeithas y flwyddyn honno - Gwobr Syr Bryner Jones.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?