Mari Grug yn ymuno â chriw cyflwyno gwasanaeth tywydd
01 Tachwedd 2007
Mae Mari Grug yn ymuno â chriw cyflwyno gwasanaeth tywydd S4C, fydd â diwyg trawiadol newydd o ddydd Iau, 1 Tachwedd ymlaen - diwrnod pen-blwydd y Sianel yn 25 oed.
Mae Mari, sy’n 23 oed ac a fagwyd ar fferm ger pentref Mynachlog-ddu yn Sir Benfro, eisoes yn wyneb cyfarwydd i wylwyr y Sianel.
Bu’n cyflwyno dolenni gwasanaeth plant S4C, Planed Plant, yn actio yn y gyfres ddrama i’r ifanc, Darn o Dir, ac eleni bu’n cyflwyno darllediadau byw o faes Yr Eisteddfod Genedlaethol yn Yr Wyddgrug ac o’r Sioe Amaethyddol Frenhinol yn Llanelwedd.
Bydd Mari yn ymuno â Chris Jones ac Erin Roberts i gyflwyno hyd at chwe bwletin tywydd yn ddyddiol, gydol yr wythnos.
Bydd graffeg cefndir cwbl newydd i’r bwletinau sydd wedi ei ddylunio ar gyfer S4C gan WeatherOne o Oslo, Norwy. Weather Consultancy Services o Swydd Stafford sy’n darparu’r data ar gyfer y gwasanaeth ac fe gynhyrchir y bwletinau ar ran S4C gan ITV Cymru.
Yn y Flwyddyn Newydd bydd nifer o elfennau ychwanegol yn cael eu cyflwyno, gan gynnwys derbyn y rhagolygon trwy ffôn symudol ac ehangu gwasanaeth y tywydd ar-lein.
“Wy’n edrych ymlaen yn fawr at gael bod yn rhan o’r tîm tywydd ar S4C,” meddai Mari Grug. “Mae diwyg newydd y bwletinau tywydd, ynghyd â’r datblygiadau newydd yn gynnar yn 2008, yn golygu y bydd y gwasanaeth yn fwy effeithiol nag erioed.”
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?