S4C ac Opera Cenedlaethol Cymru yn arwyddo cytundeb newydd
11 Rhagfyr 2007
Bydd S4C yn darlledu cynhyrchiad Opera Cenedlaethol Cymru o Falstaff, gyda Bryn Terfel yn y brif ran, fel rhan o gytundeb tair blynedd i ddangos pedwar o gynyrchiadau’r cwmni opera ar y Sianel.
Perfformiad y bâs-bariton Bryn yn Falstaff fydd ei unig rôl operatig unrhyw le yn y byd yn 2008. Mae’r holl docynnau ar gyfer y cynhyrchiad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, wedi’u gwerthu ers talwm.
Cwmni teledu Opus TF fydd yn cynhyrchu darllediadau’r pedair opera, gan ddechrau gyda’r cynhyrchiad hwn o Falstaff.
Peter Stein fydd yn cyfarwyddo a Carlo Rizzi yn arwain y gerddorfa yn y perfformiad hwn o opera olaf Verdi, sydd wedi’i seilio ar gymeriadau drama William Shakespeare, The Merry Wives of Windsor. Bydd y perfformiad yn yr iaith Eidaleg ac fe fydd is-deitlau Cymraeg a Saesneg ar gael ar ddarllediad S4C.
Fe fydd S4C a’r Cwmni Opera Cenedlaethol yn cyhoeddi pa dair opera arall gaiff eu darlledu maes o law.
Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Mae rhagoriaeth greadigol wrth wraidd holl ddarlledu S4C ac mae’r ymrwymiad yma yn amlwg iawn yn arlwy gerddorol y Sianel.
“Mae S4C yn falch iawn o gael parhau â’i pherthynas agos gydag Opera Cenedlathol Cymru trwy gyfrwng y cytundeb hwn. Fe fydd yn galluogi cynulleidfa ehangach fyth i fwynhau cynyrchiadau rhagorol y cwmni.”
Ychwanegodd John Fisher, Cyfarwyddwr Cyffredinol Opera Cenedlaethol Cymru, ”Mae hyn yn gyfle gwych i ddangos cynyrchiadau newydd Opera Cenedlaethol Cymru i’r gynulleidfa ehangaf posibl. Rydym yn arbennig o falch y bydd pob un o’r cynyrchiadau yma’n cynnwys cantorion Cymreig o statws rhyngwladol yn y cast yn ogystal â chantorion ifainc newydd sydd yn lleisiau ar gyfer y dyfodol.
“Mae Falstaff yn fan dechrau da i’r darllediadau gan fod Bryn Terfel yn cyfannu cylch cyfan wrth ddychwelyd i gynhyrchiad a ddaeth yn gyfarwydd ag ef yn gyntaf yn fuan ar ôl ennill cystadleuaeth y Lieder yng nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd 1989. Y pryd hynny, canodd ran Ford yn Falstaff, ond y tro hwn mae’n canu rhan Falstaff ei hun.”
Meddai Gareth Williams, Prif Weithredwr Opus TF, “Mae gan Opus berthynas gref gydag Opera Cenedlaethol Cymru ac rydym wedi cydweithio gyda’r cwmni ar nifer o brosiectau, gan gynnwys rhaglenni dogfen, cyngherddau ac operâu. Rydym yn falch iawn o gael cyfle i gydweithio gyda Bryn Terfel ar yr opera gyntaf yn y gyfres, campwaith Verdi, Falstaff.”
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?