Dyn yr ‘esgidiau euraidd’ yw gŵr gwadd Darlith Chwaraeon S4C
05 Tachwedd 2007
Y rhedwr rhyngwladol Michael Johnson yw siaradwr gwadd Darlith a Chinio Chwaraeon S4C 2007 a gynhelir yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd, ar 8 Tachwedd.
Enillodd Michael, sy’n enwog fel dyn yr “esgidiau euraidd”, bum medal aur Olympaidd ac mae’n parhau i ddal y record am fod y cyflymaf dros 200 a 400 medr.
Mae hefyd yn adnabyddus fel cyflwynydd teledu a cholofnydd papur newydd.
Yn y ddarlith, bydd Michael yn trafod beth sy’n gwneud cystadleuydd penigamp a beth fydd yn sicrhau llwyddiant yng Ngemau Olympaidd Beijing yn 2008.
Mae Cinio a Darlith Chwaraeon S4C yn tyfu’n ddigwyddiad blynyddol poblogaidd, sy’n adlewyrchu enw da’r Sianel ym myd darlledu chwaraeon o bedwar ban byd.
Mae S4C yn awyddus i barhau i ehangu ei gwasanaeth chwaraeon, fel y gwelwyd yn ddiweddar gyda’i darllediadau o Gwpan Rygbi’r Byd a’r cytundeb newydd gyda Chymdeithas Pêl-droed Cymru.
Diwedd.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?