Roedd cyfraniad Ray Gravell i raglenni S4C dros y chwarter canrif ddiwethaf yn enfawr.
Sylwebodd ar y darllediad teledu cyntaf erioed yn y Gymraeg o gêm rygbi ryngwladol – y gêm rhwng Cymru a Lloegr yn Chwefror 1983 – a hynny ochr yn ochr â Huw Llywelyn Davies.
Roedd Ray hefyd yn enwog fel sylwebydd ochr-y-maes. Roedd ei anwyldeb a’i hiwmor yn ennyn y gorau o’r chwaraewyr rygbi ’roedd yn eu cyfweld.
Fe wnaeth ymddangosiad arbennig ar sawl drama deledu ac roedd yn actor dawnus. Fe wnaeth ei farc hefyd fel cyflwynydd poblogaidd ar y teledu a’r radio.
Ddechrau’r flwyddyn fe ymddangosodd yng nghystadleuaeth gorawl S4C Codi Canu fel capten i gôr cefnogwyr y Sgarlets, tîm oedd mor agos at ei galon. Llwyddodd ei frwdfrydedd a’i egni diddiwedd i ysbrydoli aelodau’r côr, felly hefyd pawb a’i cyfarfu.
Meddai Iona Jones, Prif Weithredwr S4C, “Mae pawb yn S4C wedi’u syfrdanu gan y newyddion trist am farwolaeth Ray Gravell. Rydym yn estyn cydymdeimlad dwys a diffuant i’w deulu. Roedd Grav yn gymeriad unigryw - personoliaeth gynnes, annwyl ac yn Gymro i’r carn. Chwaraeodd rôl bwysig yn rhaglenni S4C ar hyd y chwarter canrif ddiwethaf - fel sylwebydd, cyflwynydd ac actor - a bydd colled enfawr ar ei ôl.”
Diwedd
Newidiadau i amserlen S4C:
Nos Iau 1 Tachwedd
7.00pm
Wedi 7
Bydd teyrnged arbennig i Ray Gravell ar y rhaglen.
7.30pm
Newyddion
Bydd y rhaglen yn cynnwys adroddiad estynedig.
9.00pm
Grav ar Grwydr
Yn y bennod hon o’r gyfres a ddarlledwyd yn 1998 gwelwn Ray Gravell yn ymweld â’i hoff ddinas, Dulyn.
Bydd S4C hefyd yn darlledu rhaglen deyrnged arbennig i Ray Gravell o fewn yr wythnosau nesaf.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?