09 Tachwedd 2007
Cyflwynodd Michael Johnson, y rhedwr rhyngwladol o’r UDA, ysgoloriaethau arbennig gan S4C i bedwar athletwr disglair o Gymru.
Derbyniodd David Guest o Ben-y-bont, Non Stanford o Benllergaer, Abertawe a Brigid Eades o Landevaud yng Ngwent y gwobrau yn Narlith a Chinio Chwaraeon S4C 2007 gan y gŵr gwadd sydd wedi ennill pum medal aur Olympaidd. Mae Lianne Clarke o’r Bontfaen, a fethodd â dod i’r digwyddiad, hefyd wedi ennill ysgoloriaeth.
Bydd yr ysgoloriaethau, sy’n rhan o ymrwymiad S4C i chwaraeon, yn talu am hyfforddaint arbenigol i’r pedwar enillydd ifanc rhwng 15 ac 20 mlwydd oed er mwyn datblygu ei sgiliau yn eu maes.
Datblygwyd yr ysgoloriaethau mewn partneriaeth gydag Athletau Cymru. Maent yn olynu lawnsio y Gronfa Ysgoloriaeth Golff S4C y llynedd, sy’n amcanu tuag at gefnogi talent ifanc yn eu meysydd dewisol.
Meddai Michael Johnson: “Mae’r math o gefnogaeth a gynigir gan S4C yn bwysig ar gyfer datblygu athletwyr ac wrth i 2012 ddynesu mae’n hanfodol i gael athletwyr o safon i gynrychioli Prydain Fawr.”
Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C: “Mae’r ysgoloriaethau yma yn atgyfnerthu ymrwymiad S4C i chwaraeon yng Nghymru ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau. Roedd yn fraint bod Michael Johnson wedi gallu cyflwyno'r ysgoloriaethau yma - roedd ei bresenoldeb a’i eiriau o anogaeth yn ysbrydoliaeth i’r enillwyr ac i bawb a oedd yn bresennol.”
Ychwanega Matt Newman, Prif Weithredwr Athletau Cymru, “Mae’r ysgoloriaethau yma gan S4C yn cynrychioli hwb enfawr i athletau yng Nghymru ac yn sicr o helpu'r pedwar enillydd i gyflawni eu potensial.”
Non Stanford
Ganwyd yn 1989. Prif feysydd Non yw Traws Gwlad a 3000m a derbyniodd ei hyfforddiant yng nghamp Kelly Holmes yn Ne Affrica. Mae’n aelod o glwb rhedeg y Swansea Harriers ac ar hyn o bryd yn astudio ym Mhrifysgol Birmingham. Hyfforddwr Non yw Robert Ashwood.
Brigid Eades
Wedi ei geni yn 1991, prif feysydd Brigid yw’r 300m a’r 400m. Mae Brigid hefyd wedi cystadlu ar lefel uchel mewn tennis, hoci, pêl-rwyd a lacrós. Hyfforddwr Brigid yw Elwyn Jarrett, a ymunodd ag Athletau Cymru fel Hyfforddwr Digwyddiadau Cenedlaethol ar gyfer 200/400m.
David Guest
Wedi ei eni yn 1991, mae David yn athletwr aml-faes (decathlon dan hyfforddiant) a hefyd yn neidiwr clwydi talentog, a dorrodd record ysgolion tymor-hir Colin Jackson yn 2007 ar gyfer neidio dros y clwydi dros bellter o 100m. Hyfforddir David gan ei dad, Mike Guest sydd hefyd yn Hyfforddwr Cenedlaethol ar gyfer Aml-feysydd.
Lianne Clarke
Ganwyd yn 1987. Maes Lianne yw’r waywffon. Enillodd Lianne y fedal aur ym Mhencampwriaeth y DU o dan 20 oed yn 2006, cyn mynd ymlaen i ennill yr aur eto yn yr Oedran dan 23 ym Mhencampwriaeth y DU gyda thafliad o 50.96m. Mae Lianne yn fyfyrwraig yn UWIC .