08 Tachwedd 2007
Bydd S4C yn cofio Ray Gravell mewn rhaglen deyrnged arbennig a ddarlledir nos Fawrth, 13 Tachwedd am 9.00pm a gynhyrchir gan ei gydweithwyr yn Adran Chwaraeon BBC Cymru.
O’i blentyndod ym Mynydd y Garreg ger Cydweli i’w ddatblygiad fel un o chwaraewyr rygbi amlycaf Cymru a’i yrfa ddisglair ym myd darlledu, bydd Grav yn edrych ar fywyd y gwladgarwr o fri trwy lygaid ei ffrindiau, ei gyd-chwaraewyr a’i gyfoedion.
Daeth yn enw adnabyddus nôl yn y 70au wrth chwarae fel canolwr i Lanelli, Cymru a’r Llewod. Enillodd 23 o gapiau i Gymru ac un o uchafbwyntiau ei yrfa fel chwaraewr rygbi oedd bod yn aelod o dîm Llanelli a gurodd y Crysau Duon nôl yn 1972. Hyd ei farwolaeth fe oedd Llywydd Anrhydeddus Clwb Sgarlets Llanelli.
Wedi ymddeol fel chwaraewr dechreuodd ar yrfa lwyddiannus fel sylwebydd, cyflwynydd ac actor yn 1985 ac roedd cyfraniad Ray Gravell i raglenni S4C a BBC Cymru yn enfawr. Sylwebodd ar y darllediad teledu cyntaf erioed yn y Gymraeg o gêm rygbi ryngwladol – y gêm rhwng Cymru a Lloegr yn Chwefror 1983 – a hynny ochr yn ochr â Huw Llywelyn Davies.
Roedd Ray hefyd yn enwog fel sylwebydd ochr-y-maes. Roedd ei anwyldeb a’i hiwmor yn ennyn y gorau o’r chwaraewyr rygbi ’roedd yn eu cyfweld. Roedd hefyd yn atyniad poblogaidd i wrandawyr BBC Radio Cymru yn y gorllewin gyda’i raglen foreol.
Fe wnaeth ymddangosiad arbennig ar sawl drama deledu gan gynnwys actio rhan ei arwr mawr, Owain Glyn Dŵr. Ddechrau’r flwyddyn fe ymddangosodd yng nghystadleuaeth gorawl S4C Codi Canu yn gapten i gôr cefnogwyr y Sgarlets, tîm oedd mor agos at ei galon. Llwyddodd ei frwdfrydedd a’i egni diddiwedd i ysbrydoli aelodau’r côr, felly hefyd pawb a’i cyfarfu.
Meddai Geraint Rowlands, Golygydd Cynnwys Chwaraeon S4C a ffrind personol i Ray Gravell: “Fe lwyddodd Grav i uno Cymru gyfan – o’r de i’r canolbarth a’r gogledd – a hynny ar, ac oddi ar, y meysydd rygbi. Roedd ganddo amser i bawb ac ni fu chwaraewr rygbi mor angerddol a gwladgarol yn hanes Cymru erioed.
“Chwaraeodd rôl bwysig yn rhaglenni S4C ar hyd y chwarter canrif ddiwethaf - fel sylwebydd, cyflwynydd ac actor - a bydd colled enfawr ar ei ôl.”
Dywedodd Nigel Walker, Pennaeth Chwaraeon BBC Cymru am ei ffrind a’i gyd-weithiwr:
“Fedrech chi ddim dymuno cwrdd â dyn mwy didwyll, gofalus, cariadus ac angerddol. Roedd yn nodweddiadol ohono ei fod wedi defnyddio’r anffawd o golli ei goes dde o dan y pen-glin er mwyn cysuro ac ysbrydoli eraill a fu drwy’r un profiad. Bydda’ i a llawer o rai eraill yn gweld isie cwtch gadarn, gwên a chynhesrwydd Ray.
Bu Ray yn darlledu i BBC Cymru am dros ddau ddegawd ac roedd gan y gynulleidfa a’i gyd-weithwyr feddwl y byd ohono.”
Grav
Nos Fawrth, 13 Tachwedd, 9.00pm, S4C. Is-deitlau Saesneg ar gael
Cynhyrchiad BBC Cymru ar S4C