23 Tachwedd 2007
Bydd cyfweliad arbennig gyda Gethin Jones yn dathlu’r milfed bennod o raglen gylchgrawn boblogaidd S4C ar gyfer pobl ifanc, Uned 5 heno am 6.30pm.
Dechreuodd seren y gyfres Strictly Come Dancing a chyflwynydd Blue Peter ei yrfa deledu ar Uned 5 ym mis Medi 2002, yn cyd-gyflwyno gyda Lisa Gwilym a Gareth Owen.
Dros yr wythnosau diwethaf mae camerâu Uned 5 wedi bod yn dilyn Gethin yn ei ymarferion ar gyfer Strictly Come Dancing gyda’i bartner ar y sioe, Camilla Dallerup. Rydym hefyd wedi gweld Mari Lovgreen a Llinos Lee, cyflwynwyr Uned 5 yn derbyn gwersi dawnsio gan Gethin ar y rhaglen.
Ar y 1,000fed bennod o Uned 5 dilynwn lwyddiant Gethin yn y gystadleuaeth a chlywed am ei brofiadau hyd yma mewn cyfweliad arbennig. Draw yn y stiwdio bydd yr actor Llŷr Evans a’r band Sibrydion yn ymuno â Mari, Rhydian a Llinos.
Mae Uned 5 - sy’n croesawu’r penwythnos mewn steil bob nos Wener am 6.30 gyda’r arwyddair, “Gwenwch, mae’n nos Wener” - wedi ei ail-lansio yn ddiweddar i apelio i gynulleidfa hŷn.
Dangoswyd y rhaglen gyntaf fis Chwefror 1994 a’r tri chyflwynydd oedd Gaynor Davies, Garmon Emyr a Nia Dafydd. Dros y 13 mlynedd ddiwethaf mae un ar bymtheg o gyflwynwyr gwahanol wedi ymddangos ar y rhaglen ac wedi mynd ymlaen i fod yn wynebau amlwg ar S4C a thu hwnt - Gethin Jones (Blue Peter), Rhodri Owen (Holiday, Most Haunted, X-Ray), Lowri Morgan (Ralïo) a Heledd Cynwal (Wedi 7).
Ffilmir y rhaglen yn Uned 5, Stad Cibyn yng Nghaernarfon, ac mae'r stiwdio ar ffurf ‘tŷ’. Mae’r rhaglen fyw yn gymysgfa o gyfweliadau, cystadlaethau, adolygiadau, perfformiadau gan fandiau a’r newyddion diweddaraf ym maes adloniant. Ymysg uchafbwyntiau'r rhaglen mae her Gethin i ddysgu sut i hedfan awyren fach a thaith anturus Lowri Morgan i ymweld â gweddillion yr R.M.S Titanic.
Dechreuodd Mari Lovgreen, cyflwynydd presennol Uned 5 ei gyrfa yn ateb y ffôn i gystadlaethau Uned 5. Yn ddiweddarach enillodd wobr BAFTA am y Newydd-ddyfodiad Orau am ei rhan yn cyflwyno ar y rhaglen:
“Mae’n dipyn o gamp i Uned 5 i gyrraedd y milfed bennod ac mae’r rhaglen dal mor boblogaidd ag erioed ac yn mynd o nerth i nerth,” meddai.
“Mae’n ffordd wych o ddechrau’r penwythnos ac oherwydd ei bod yn rhaglen fyw mae’r adrenalin yn pwmpio a gall unrhyw beth ddigwydd d’eud gwir! Mae Rhydian, Llinos a’r criw cynhyrchu yn grêt i weithio hefo nhw ac ymysg yr uchafbwyntiau i mi oedd cael teithio i Melbourne, Gwlad Thai a Machu Picchu i gyflwyno rhaglenni arbennig. Alla’i ddim breuddwydio am well swydd!”
Ategir hynny gan ei chyd-gyflwynydd, Llinos Lee: “Mae’n bleser mawr gen i gyflwyno rhaglen 1,000 Uned 5! Dwi wastad wedi bod yn ffan o’r rhaglen dros y blynyddoedd ac mae’n grêt i wybod bod pawb dal i fwynhau gwylio. Mae yna nifer o gyflwynwyr gwahanol wedi cyflwyno Uned 5 a dwi’n falch iawn o gael dweud fy mod i’n un ohonyn nhw!”
Ffeithiau chwim am Uned 5:-
• Darlledwyd y bennod gyntaf o Uned 5 ar 17 Chwefror, 1994
• Mae holl glipiau Uned 5 ar gael ar y wefan yn fyd-eang.
• Hyd heddiw mae 16 o gyflwynwyr wedi ymddangos ar y rhaglen yn cynnwys Gethin Jones, Rhodri Owen, Lisa Gwilym, Catrin Mai, Lowri Morgan a Bedwyr Rees.
• Mae 3,000 o westeion wedi ymddangos ar y rhaglen gan gynnwys enwau fel Ioan Gruffudd, Cerys Matthews, Matthew Rhys, Glyn Wise a Siân Lloyd.
Uned 5, nos Wener, 23 Tachwedd, 6.30pm
www.uned5.co.uk