Roedd plant Cymru yn dweud 'Helo Cyw!' am 7.00am heddiw wrth i wasanaeth Cymraeg estynedig ar gyfer y gwylwyr ieuengaf ddechrau darlledu.
Y cymeriad animeiddiedig Cyw fydd wyneb y gwasanaeth meithrin gydol y flwyddyn, a ddarlledir ar S4C Digidol.
Bydd y gwasanaeth newydd yn cynyddu'r ddarpariaeth feithrin yn sylweddol i chwe awr a hanner y dydd, Llun-Gwener, 7.00am-1.30pm.
I gyd-fynd â'r gwasanaeth, bydd yna wefan ddwyieithog fywiog -
s4c.co.uk/cyw - yn llawn gemau a gweithgareddau, ynghyd â gwybodaeth ar gyfer rhieni. Bydd llawer o'r rhaglenni ar gael ar-lein, tra bydd is-deitlau Saesneg ar gael ar y rhan fwyaf o’r sioeau.
Cyw yw'r cam cyntaf yn strategaeth S4C i gyflwyno gwasanaeth Cymraeg ar wahân ar gyfer plant a phobl ifanc. Yr ail gam fydd gwasanaeth ar gyfer plant 7-12 oed a’r trydydd cam y gwasanaeth ar gyfer plant oed 12+ i’w cyflwyno dros y deunaw mis nesaf.
"Mae Cyw yn adlewyrchu ymroddiad S4C i blant ifanc a’u teuluoedd yng Nghymru a thu hwnt ac rwy’n hyderus y bydd y gwasanaeth newydd yn cael croeso cynnes mewn cartrefi ledled y wlad," meddai Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, Rhian Gibson.
Rhaglenni gwreiddiol a wnaed yng Nghymru gan gwmnïau cynhyrchu Cymreig ac mewn partneriaeth â darlledwyr rhyngwladol sydd wrth galon y gwasanaeth uchelgeisiol hwn.
Ymhlith y rhaglenni hynny fydd cyfres Sali Mali a'i chyfeillion, Pentre Bach, y sioe ddawns a chân Triongl, y cyfresi animeiddiedig Holi Hana, Sali Mali a Sam Tân, a'r gyfres ffitrwydd newydd, Heini.
Bydd gan y gwasanaeth newydd gân arbennig ei hun o'r enw "Helo Cyw!" sydd wedi ei chyfansoddi gan Caryl Parry Jones.
Mae S4C Digidol ar gael yn rhad ac am ddim yng Nghymru ar Sky 104, Freesat 104, Freeview 4 a Virgin TV 194, a'r tu allan i Gymru ar Sky 134 a Freesat 120.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?