Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw gan Ofcom ei bod wedi neilltuo lle i S4C a Channel 4 ddarlledu'r gwasanaethau Manylder Uwch newydd ar deledu daearol digidol, fe ryddhawyd y datganiad canlynol ar y cyd gan y ddau ddarlledwr:
“Rydym yn falch iawn bod cynnig Channel 4 ac S4C ar gyfer slot Manylder Uwch ar lwyfan Freeview wedi llwyddo. Bydd hyn yn galluogi Channel 4 i ddechrau darlledu'n gydamserol mewn Manylder Uwch yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon erbyn diwedd 2009 ac yn caniatáu i S4C ddarparu darllediadau cydamserol mewn Manylder Uwch yng Nghymru.
"Rydym ni'n credu bod darparu sianeli Manylder Uwch ar Freeview yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y llwyfan yn parhau'n gystadleuol mewn byd cwbl ddigidol ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda'n rhanddeiliaid allweddol wrth roi'r cynlluniau ar waith."
Ewch i'r linc isod i ddarllen datganiad i'r wasg Ofcom: