Mae S4C yn galw ar gyfansoddwyr ac emynwyr i fynd i naws y Nadolig yn gynnar eleni trwy gystadlu yng Nghystadleuaeth Cyfansoddi Carol S4C.
Mae’r gystadleuaeth, a gynhelir ar y cyd gyda phapur newydd y Daily Post, yn dathlu ei 11eg ben-blwydd eleni ac mae’r beirniaid yn disgwyl llond sach o geisiadau i frwydro am y wobr o £1,000.
Bydd y garol fuddugol yn cael ei pherfformio yn y Cyngerdd Mil o Leisiau sy’n cael ei gynnal ym Mhafiliwn Rhyngwladol Llangollen. Bydd y cyngerdd, a noddir gan y Daily Post, yn cael ei ddarlledu ar S4C yn ystod cyfnod yr ŵyl.
Mae’r perfformwyr serennog ar gyfer y noson fawr yn cynnwys y soprano o Aberystwyth, Gwawr Edwards, y gantores o Ynys Môn, Elin Fflur a’r côr o Feirionnydd, Côr Godre’r Aran. Arweinydd y gân fydd Alwyn Humphreys a’r cyflwynwyr fydd Branwen Gwyn a Robin Jones.
Mae’r gystadleuaeth carol, a lansiwyd yn gyntaf yn 1999, yn denu cystadleuwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt.
Daeth enillwyr y llynedd o fan go agos i Langollen, gyda Rhys Jones o Brestatyn ac Aled Lloyd Davies o’r Wyddgrug yn fuddugol gyda’r garol, Bethlehem.
Meddai Rob Nicholls, Golygydd Cynnwys Diwylliant S4C, “Mae’r noson Mil o Leisiau o Bafiliwn Rhyngwladol Llangollen yn un o gerrig milltir cerddorol y flwyddyn ac mae’r perfformiad cyntaf o’r garol fuddugol yn y cyngerdd. Dyma un o’r llwyfannau gorau posibl ar gyfer cyfansoddwyr i ddangos eu doniau a dyna pam mae’r gystadleuaeth yn parhau i dyfu.”
Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yw Dydd Gwener, 9 Hydref a gellir derbyn carolau ar ffurf casét, DAT, mini-disc, CD neu lawysgrif (rhaid cynnwys copi wedi’i deipio o’r geiriau).
Mae’r gystadleuaeth yn agored i bawb o bob oed, boed yn unigolion neu’n grwpiau, heblaw am bobl a gyflogir gan S4C a’r Daily Post. Rhaid i’r geiriau a’r gerddoriaeth fod yn waith gwreiddiol a gall y geiriau fod yn Gymraeg neu’n Saesneg.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?