Mae’r opera sebon Gymraeg Pobol y Cwm, sy’n gynhyrchiad BBC Cymru ar gyfer S4C, wedi ei enwebu ar restr fer gwobrau Stonewall eleni.
Daw enwebiad y gyfres, sy’n dathlu 35 mlynedd o ddarlledu eleni, yng nghategori Darllediad y Flwyddyn am bortread positif o gymeriadau hoyw’r gyfres, Iolo White, a bortreadir gan Dyfan Rees a Gwyneth, a gaiff ei chwarae gan Llinor ap Gwynedd.
Dyma fydd pedwaredd seremoni wobrwyo Stonewall, digwyddiad blynyddol yng nghalendr hoywon a lesbiaid, a chaiff ei chynnal yn amgueddfa’r V & A nos Iau, 5 Tachwedd. Y cyflwynydd teledu Gok Wan fydd yn llywio’r noson.
Bydd Wedi 7, rhaglen gylchgrawn dyddiol S4C, yn darlledu’n fyw o’r carped coch am 7.00pm nos Iau, 5 Tachwedd lle bydd Llinor ap Gwynedd, Dyfan Rees a chynhyrchydd gweithredol y gyfres, Llŷr Morus yn cael eu cyfweld.
Meddai cynhyrchydd y gyfres, Ynyr Williams: "Mae'n fraint i ni fod Pobol y Cwm wedi cael y gydnabyddiaeth yma gan Stonewall. 'Da ni o hyd yn ymdrechu i sicrhau fod hoywon a lesbiaid yn cael cynrychiolaeth deg o fewn y diwydiant teledu yng Nghymru."
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?