Mae S4C wedi cipio un o brif wobrau diwydiant marchnata a hyrwyddo teledu’r Deyrnas Unedig.
Yng Ngwobrau Promax 2009, fe enillodd y Sianel y wobr arian yng nghategori Ymgyrch Y Wasg/ Cysylltiadau Cyhoeddus Gorau gydag ymgyrch gyfathrebu Ymlaen â’r Sioe, sy’n cwmpasu’r cyfnod newid i ddigidol yng Nghymru.
Mae’r ymgyrch, sy’n parhau hyd at fis Mawrth 2010, wedi cynnwys sioeau syrcas, gweithdai, ffilmiau byrion a chyswllt cyson gyda chyhoeddiadau ledled y wlad.
Cwmniau JM Creative a Working Word Public Relations Cyf. sydd wedi llywio Ymlaen â’r Sioe, ar ôl ennill mewn cystadleuaeth agored y tendr i ddarparu ymgyrch cyfathrebu newid i ddigidol ar gyfer S4C.
Meddai Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu S4C, “Mae’r wobr hon yn cydnabod ymroddiad tîm Ymlaen â’r Sioe a chriw cyfathrebu S4C, sydd wedi cydweithio’n agos i ledaenu’r negeseuon am y newid i ddigidol i’n gwylwyr.”
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?