Bydd Sioe Nadolig Cyw a’i ffrindiau 2009 yn teithio i ddeuddeg o leoliadau ledled y wlad yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr i ddathlu’r Nadolig.
Bydd llu o wynebau cyfarwydd yn ymddangos yn y sioe, gan gynnwys Sali Mali, Twm Tisian, Huwi Stomp a Betsan Brysur o’r gyfres feithrin Cei Bach, y direidus Rapscaliwn fydd yn ymddangos ar Ffilm Cyw dros y Nadolig, Cyw ei hun ac wrth gwrs, Siôn Corn.
Meddai Siân Eirian, Pennaeth Gwasanaethau Plant S4C, “Mae gwasanaeth meithrin Cyw ar S4C wedi cydio yn nychymyg plant Cymru ers ei lansio yn 2008, ac mae’r Daith Nadolig yn gyfle arbennig i’r gwylwyr ieuengaf o bob cwr o’r wlad gwrdd â rhai o’u hoff gymeriadau – gan gynnwys Cyw ei hun.”
Bydd pris mynediad o £3.00 i bawb, yn blant ac oedolion, a bydd system o archebu tocynnau ymlaen llaw yn weithredol trwy gysylltu â Gwifren Gwylwyr S4C ar 0870 6004141 (cost galwad cenedlaethol).
Dyma fanylion lleoliadau’r Daith:
Tachwedd 26 Theatr Hafren, Y Drenewydd
Tachwedd 27 Venue Cymru, Llandudno
Tachwedd 28 Ysgol Gyfun Llangefni, Ynys Fôn
Rhagfyr 4 Neuadd Goffa Aberaeron
Rhagfyr 5 Neuadd Cross Hands
Rhagfyr 6 Ysgol Esgob Llandaf, Caerdydd
Rhagfyr 11 Y Stiwt, Wrecsam
Rhagfyr 12 Y Ganolfan, Porthmadog
Rhagfyr 13 Coleg Meirion Dwyfor, Dolgellau
Rhagfyr 17 Theatr Beaufort, Glyn Ebwy
Rhagfyr 18 Theatr Taliesin, Abertawe
Rhagfyr 19 Theatr Gromlech, Crymych
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?