Mae S4C wedi lansio fersiwn sain o'r cylchgrawn gwylwyr Sgrîn am y tro cyntaf erioed ar gyfer pobl sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg.
Rhifyn Nadolig a Blwyddyn Newydd Sgrîn yw'r cyntaf i fod ar gael ar gryno ddisg. Mae 175 o gopïau yn cael eu dosbarthu trwy rwydwaith y Papurau Llafar (Talking Books) yng Nghymru. Mae modd archebu copi trwy gysylltu â Gwifren Gwylwyr S4C ar 0870 600 4141. Gellir hefyd gwrando ar-lein neu lawrlwytho'r erthyglau ar s4c.co.uk/sgrin.
Meddai Prif Weithredwr S4C, Iona Jones, "Mae'n bleser gen i gyhoeddi fod fersiwn sain o Sgrîn ar gael i bobl sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg fel rhan o ymrwymiad y sianel i wasanaethu ein cynulleidfa yn ddiwahân.
"Rydym eisoes yn darparu gwasanaethau mynediad ar S4C, gan gynnwys sain ddisgrifio, arwyddo ac isdeitlau. Ond rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd i ehangu'r gwasanaethau hyn er mwyn bod mor hygyrch â phosib."
Meddai Bryn Williams o Gymdeithas y Deillion Gogledd Cymru, cynhyrchwyr y gryno ddisg, "Dyma'r tro cyntaf inni gydweithio â S4C, ac mae wedi bod yn bleser bod yn rhan o'r prosiect cyffrous hwn. Bydd yn adnodd gwerthfawr i'r rhai trwy Gymru sydd eisoes yn mwynhau gwrando ar gynnwys y Papurau Llafar, cynllun a ddechreuodd yn Aberystwyth yn y 70au ac sydd yn awr yn weithredol ar draws Prydain."
Mae fersiwn sain Sgrîn yn cynnwys pob math o ddanteithion. Mae cyfweliadau â'r actorion Aled Pugh a Rhys ap Hywel, sêr ffilm Dydd Nadolig S4C, Ryan a Ronnie, ynghyd â Ruth Jones, un o sêr a sgriptwraig Gavin and Stacey, sydd wedi cyd-ysgrifennu drama gomedi newydd ar gyfer S4C, Ar y Tracs. Bydd hanes cyngherddau'r Nadolig ar S4C, sy'n cynnwys perfformiadau gan Only Men Aloud!, Bryn Terfel a Rhydian Roberts, a chyngor tymhorol gan Russell Jones, cyflwynydd Byw yn yr Ardd.
Cynhyrchwyd y gryno ddisg gan Gymdeithas y Deillion Gogledd Cymru. Aled Glynne Davies sy'n gyfrifol am y sgript ac fe'i lleisir gan Mari Emlyn, Lyn Davies ac Elfed Dafis.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?