06 Ebrill 2010
Mae S4C wedi lansio gwasanaeth newydd, cyffrous ac arloesol i blant rhwng 7 a 13 oed o’r enw Stwnsh.
Bydd gwasanaeth newydd Stwnsh yn adlewyrchu profiadau plant Cymru gyda nifer o gyfresi gwreiddiol uchelgeisiol. Bydd Stwnsh yn cyrraedd y sgrin ddydd Llun 26 Ebrill a bydd ar yr awyr am ddwy awr bob dydd rhwng 4.00pm a 6.00pm.
Un o uchafbwyntiau’r gwasanaeth fydd Stwnsh Sadwrn rhaglen newydd ar foreau Sadwrn rhwng 9.00am a 11.00am, sy’n llawn hwyl, sgetsus, comedi a chystadlaethau.
Anni Llŷn, Eleri Griffiths ac Owain Gwynedd sy’n ymuno â thri chyflwynydd plant presennol S4C, Geraint Hardy, Tudur Phillips a Lois Cernyw; y rhain fydd y chwe wyneb cyfarwydd ar Stwnsh. Lois ac Ant ac Al — Anthony Evans ac Alun Williams – fydd yn cyflwyno Stwnsh Sadwrn.
Rhan annatod o’r gwasanaeth fydd y wefan, s4c.co.uk/stwnsh. Bydd yn cynnig cyfleoedd i’r gwylwyr chwarae gemau, rhyngweithio, lawr lwytho gwybodaeth, yn ogystal â gwylio’r gwasanaeth ar-lein, unrhyw bryd ac unrhyw le.
Yn ôl Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Mae S4C yn credu bod gwasanaethau plant yn rhan annatod o’i swyddogaeth fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus ac rwy wrth fy modd ein bod ni’n gallu arddangos ein hymrwymiad parhaus i gynulleidfaoedd iau.”
“Bydd Stwnsh yn cynnig rhaglenni dychmygus a chreadigol wedi’u creu yng Nghymru. Cynnyrch mentrus ac uchelgeisiol fydd wrth galon y gwasanaeth - rhaglenni sy’n herio, sy’n sbarduno ac yn ysbrydoli,” meddai Rhian.
“Stwnsh yw’r ail gymal yn strategaeth S4C ar gyfer ymestyn a chryfhau ei gwasanaethau ar gyfer plant o bob oed,” ychwanega Rhian. “Mae cyflwyno’r gwasanaeth newydd yn sgil llwyddiant gwasanaeth meithrin arloesol Cyw yn 2008. Mae Cyw wedi cael derbyniad gwych, gan blant bach a’u teuluoedd ledled Cymru a thu hwnt, ac eleni byddwn yn ymestyn oriau Cyw i’r penwythnosau.”
Mae cynlluniau ar waith hefyd ar gyfer ar gyfer gwasanaeth newydd ar gyfer plant dros 13 oed a phobl ifanc.
Yn ôl Rhian, “Bydd y tri gwasanaeth gyda’i gilydd yn cynnig darpariaeth gynhwysfawr i blant o bob oed trwy Gymru, cynnwys sy’n adlewyrchu eu diwylliant a’u profiadau.”
Dyma flas o’r cyfresi newydd fydd i’w gweld ar Stwnsh:
Seren am Swper
Yn y gyfres yma, fe fydd dau deulu o’r un ardal yn cael eu herio i baratoi pryd arbennig ar gyfer seren o’r byd adloniant neu chwaraeon. Y plant fydd yn penderfynu ar y fwydlen, gyda’r gwestai yn ymweld â’r ddau deulu cyn dewis pa noson oedd fwyaf pleserus. Tlws aur Seren am Swper fydd y wobr i’r teulu buddugol, tra bod y criw sy’n colli yn gorfod torchi llewys a golchi’r llestri.
I’r Eithaf
Mae Tudur Phillips yn gwirfoddoli ar gyfer pob math o arbrofion yn labordy’r gyfres gwyddoniaeth eithafol yma, dan lygad barcud yr arbenigwyr. Pa mor gyflym gall ein calonnau guro wrth ymarfer corff yn galed? Pa mor hir gallwn wrthsefyll tymheredd 10 gradd o dan y rhewbwynt?
Ti’n Gêm?
Y gwylwyr sy’n gyfrifol am raglen Ti’n Gêm?, gyda gwahanol glybiau chwaraeon dan sylw bob wythnos. Bydd aelodau’r clybiau yn cynnig tips hyfforddi i’r rheiny sydd â’u bryd ar ddysgu camp newydd ac yn rhoi pob math o declynnau ar brawf—o frizbees i fyrddau syrffio.
Anifeiliaid a fi
O’r ddafad fynydd i’r bochdew a’r pysgodyn aur, bydd tri phlentyn o ardaloedd y Bala, Aberystwyth ac Abertawe yn edrych ar yr anifeiliaid sy’n byw yn ein plith. Fe fydd y criw yn ymweld â phlant eraill bob wythnos — sydd un ai’n cadw anifeiliaid anwes neu sy’n byw ar fferm. Fe fyddwn ni hefyd yn dilyn plant sy’n cystadlu gydag anifeiliaid a bydd eitem wythnosol yn dilyn y milfeddyg o Aberystwyth, Kate Thomas, wrth ei gwaith.
Stwnsh ar y Ffordd
Y gwylwyr a pod Stwnsh sy’n ganolog i’r gyfres hon. Bydd y rhaglen yn teithio i ysgolion led led Cymru gan roi cyfle i ddisgyblion ddangos eu doniau mewn gemau difyr-o’r dwl i’r doniol ac o’r meddyliol i’r creadigol. Athrawon fydd masgot y timau a bydd un athro anlwcus yn gorffen ei daith yn Nhanc Stwnsh ar y Ffordd.
Stwnsh Sadwrn
Ant, Al a Lois fydd yn cyflwyno dwy awr egnïol ar fore Sadwrn fydd yn llawn comedi, rhyngweithio, cystadlu, dwli a direidi. Bydd yn cyrraedd uchelfannau anarchaidd a gwirion gyda help tîm o bobl ifanc, yn westeion, yn gyfranwyr ac unrhyw un sy’n ddigon anffodus i fod yn y lle anghywir ar yr adeg iawn!