Mae cyfres meithrin arloesol S4C, Y Diwrnod Mawr, wedi’i henwebu yng Ngwobrau BAFTA Plant Prydain eleni.
Bydd Y Diwrnod Mawr – a dorrodd dir newydd ym myd teledu plant gyda’r gyfres gyntaf erioed o raglenni dogfen i blant meithrin – yn mynd ben ben â chynyrchiadau gan gynnwys Grandpa in my Pocket, Big and Small a Something Special, y tri yn cael eu darlledu ar CBeebies. Bydd y pedwar yn cystadlu yng nghategori Pre-School Live Action.
Nid dyma’r tro cyntaf i’r gyfres, a gynhyrchir gan Ceidiog Cyf, dderbyn cydnabyddiaeth ar lefel cenedlaethol. Yn gynharach eleni, cafodd Y Diwrnod Mawr ei henwebu ar gyfer Gwobr Rose d’Or.
Darlledwyd cyfres gyntaf Y Diwrnod Mawr ar S4C yn y gwanwyn ac mae’r ail yn cael ei ddarlledu ar hyn o bryd.
Bydd Cyw hefyd yn herio rhai o enwau mwyaf y byd teledu yng Ngwobrau BAFTA Plant Prydain eleni am yr ail flwyddyn yn olynol. Y tro hwn bydd y gwasanaeth yn wynebu CBBC, CBeebies ac arlwy Sianel Pump, Milkshake! yn y categori Sianel y Flwyddyn.
Daw’r newyddion da ychydig wythnosau ar ôl cyhoeddi estyniad cyffrous i’r gwasanaeth – Clwb Cyw i’w ddarlledu rhwng 07:00 a 09:00 ar benwythnosau. Dyma’r tro cyntaf i Cyw ddarlledu bob dydd Sadwrn a Sul. Mae oriau arferol Cyw hefyd yn parhau o ddydd Llun i ddydd Gwener (07:00 – 13:30).
Meddai Siân Eirian, Pennaeth Gwasanaethau Plant S4C, “Mae’r Diwrnod Mawr yn gyfres arloesol yn y Gymraeg ac yn rhoi cyfle i blant ifanc gael blas ar raglenni ffeithiol a dogfen, rhaglenni sy’n cynnig profiadau cofiadwy ac ysgytwol ar adegau. Mae’r enwebiad yma yn profi’n glir fod cynlluniau S4C o ran buddsoddi ym myd teledu a gwasanaethau i blant yn allweddol ac yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i’r iaith a bywyd diwyllianol Cymru”
Cynhelir y Gwobrau BAFTA Plant Prydain ar 28 Tachwedd.
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?