S4C Rhyngwladol i fuddsoddi mewn cyfres ddogfen newydd
18 Tachwedd 2010
Mae S4C Rhyngwladol, un o gwmnïau masnachol S4C, wedi cytuno i fuddsoddi £150,000 mewn cyfres ddogfen newydd sbon fydd yn edrych ar rai o’r ynysoedd mwya’ diddorol yn y byd.
Bydd Ynysoedd, sy’n cael ei gynhyrchu gan Green Bay Media, yn gyfres epig chwe phennod sy’n portreadu diwylliannau cyfoethog a phrydferthwch rhai o ynysoedd unigryw'r byd. Bydd y gyfres, fydd yn cael ei darlledu ar S4C yn 2011, yn mynd a ni i Wlad yr Ia, Zanzibar, Ciwba, Cyprus, Fiji a’r Galapagos.
Mae’r gyfres yn gyd-gynhyrchiad rhwng S4C, Green Bay, S4C Rhyngwladol, Cronfa ED Creadigol Cymru a Parthenon Entertainment. Gofynnwyd i S4C Rhyngwladol wneud y buddsoddiad yn dilyn gweinyddiaeth Barcud Derwen oedd yn bartner blaenorol yn y cynhyrchiad.
Meddai Arwel Ellis Owen, Prif Weithredwr S4C: “Mae S4C Rhyngwladol yn cynnal gweithgareddau masnachol i gynorthwyo gwasanaeth cyhoeddus S4C ac mae’n falch o gael y cyfle i fuddsoddi yn y cynhyrchiad cyffrous hwn.”
Meddai Gareth Fisher, Rheolwr Masnachol Green Bay: “Gyda’r buddsoddiad yma gan S4C Rhyngwladol, fe allwn ni greu rhaglen fydd yn cael ei weld a’i fwynhau gan bobl o Gymru ac ar draws y byd.”
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?