Mae’r ffilm bwerus Cwcw wedi ennill gwobr ddarlledu fawr arall trwy gipio Gwobr Ffilm Lleiafrifoedd Ewrop mewn gŵyl ryngwladol yng Ngogledd Fresia, Yr Almaen.
Mae Cwcw, a ysgrifennwyd a’i chyfarwyddo gan Delyth Jones, yn bortread o fywyd y sgriptwraig Jane Jones, sydd yn gweld ei byd yn datod o flaen ei llygaid yn wyneb ei phriodas ddinistriol â’r actor Sam Llewelyn.
Cafodd y ffilm ei darlledu mewn dwy ran yn gynharach eleni ar S4C a sêr y cynhyrchiad yw Eiry Thomas fel Jane, Rhys Richards fel ei gŵr alcoholig, Sam ac Aneirin Hughes fel ei chariad mewn cyfyngder, yr optegydd John Jones.
Mae’r ffilm, a gynhyrchwyd gan Ffilmiau Fondue, wedi ennill gwobrau’r ffilm orau yng Ngŵyl Ffilm Female Eye, Toronto, Canada a Gŵyl Ffilm Ryngwladol De Affrica, ynghyd a gwobrau BAFTA Cymru ar gyfer Eiry Thomas fel Actores Orau a John Hardy ar gyfer y Tracsain Cerddoriaeth Gwreiddiol.
Gyda’i sgriptio dychmygus, cast cryf, cyfarwyddo trawiadol a sgôr gerddorol hudol, mae’r ffilm yn ein harwain ar siwrne ryfedd rhwng bywyd dinesig Jane yng Nghaerdydd a bywyd alternatif ym mhentre delfrydol Iet y Bompren yng ngorllewin Cymru. Ar ei thaith, mae Jane yn croesi rhwng ffantasi a realiti, gwirionedd a ffuglen a gwallgofrwydd a sobrwydd.
Meddai Delyth Jones: "Rwy’n hynod falch bod Cwcw wedi ennill ei thrydedd wobr ffilm ryngwladol. Yr hyn sy’n wych yw bod trefnwyr yr ŵyl ffilm wedi ein gwahodd ni i gyflwyno’r ffilm ar gyfer y dangosiad a rhestr fer y wobr. Mae’n dda gweld ffilmiau o Gymru yn cael sylw ledled Ewrop. Mae’r wobr yn deyrnged i dalent a phroffesiynoldeb pawb fu’n gysylltiedig â’r ffilm.
Ychwanegodd Pennaeth Cynnwys S4C, Meirion Davies: “Rydym yn falch iawn bod Cwcw wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol bellach ac yn llongyfarch pawb a fu’n ymwneud â’r ffilm ar eu lwyddiant.”
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?