Côr Rhos a’r Cylch yw pencampwyr Codi Canu 2010 yn dilyn cyngerdd mawreddog yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.
Roedd y cyngerdd a gynhaliwyd nos Sadwrn 27 Tachwedd yn ganlyniad chwe mis o waith caled gan bedwar côr, eu harweinwyr dan hyfforddiant a’u mentoriaid. Cafodd y cyngerdd ei darlledu yn fyw ar S4C.
Mae’r gyfres Codi Canu ar S4C wedi bod yn dilyn y corau wrth iddyn nhw oroesi cyfres o sialensiau oedd wedi eu gosod gan y Maestro a’r beirniad Owain Arwel Hughes.
Yr arweinwyr a’u hyfforddwyr oedd y cyflwynydd Beti George ac Eilir Owen Griffiths (Côr Cwm Tawe); y canwr a’r darlledwr, Stifyn Parri a Geraint Roberts (Côr Rhos a’r Cylch); yr actores Donna Edwards a Delyth Medi Jones (Côr Cwm Rhondda); a’r actor a cherddor Neil 'Maffia' Williams a Mari Pritchard (Côr Ogwen a’r Cylch).
Ond Côr y Rhos o dan faton Stifyn Parri a gafodd ei ddyfarnu’r côr gorau gan y beirniad Owain Arwel Hughes a phleidlais y cyhoedd gartre', gyda chôr Y Rhondda yn ail, Cwm Tawe yn drydydd a Dyffryn Ogwen yn bedwerydd.
Meddai Rob Nicholls, Golygydd Cynnwys Diwylliant S4C, “Roedd yn noson lwyddiannus iawn yn Neuadd Dewi Sant gyda safon perfformiadau’r pedwar côr yn hynod uchel. Roedd gweld y pedwar côr yn uno gyda’i gilydd yn y diwedd i ganu yn uchafbwynt priodol i gyfres gofiadwy iawn. Gall y corau i gyd, eu harweinwyr a’u mentoriaid deimlo’n falch iawn o’r hyn y maen nhw wedi ei gyflawni dros y misoedd diwethaf.”
Bydd cyfle i weld y côr buddugol, Côr y Rhos, yng Nghyngerdd Mil o Leisiau'r Nadolig ym Mhafiliwn Llangollen nos Sul, 12 Rhagfyr.
Fe fydd uchafbwyntiau’r noson, a drefnir ar y cyd rhwng S4C a phapur newydd y Daily Post, yn cael ei darlledu ar S4C nos Fercher, 21 Rhagfyr.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?