Bydd Cyw – gwasanaeth meithrin arloesol S4C – yn mentro ar draws y dŵr gydag enwebiad rhyngwladol arall i un o’i rhaglenni.
Y tro hwn, mae Cyw a’i ffrindiau wedi ennyn sylw Gwobrau KidScreen – cynhadledd deledu plant mwyaf blaenllaw'r byd.
Y ffilm deledu Ble Mae Cyw? – a fu’n dilyn rhai o hoff gymeriadau rhaglenni meithrin S4C wrth iddyn nhw archwilio diflaniad Cyw – sydd wedi derbyn enwebiad ar gyfer wobr Best One-Off, Special or TV Film yn y categori meithrin.
Bydd y cynhyrchiad, sef un o uchafbwyntiau amserlen Nadolig S4C yn 2009, yn mynd ben ben â’r ffilm o Awstralia, The Adventures of Charlotte and Henry (a gynhyrchir gan Optimistic Pitcures), yn y seremoni gwobrwyo yn Efrog Newydd ym mis Chwefror 2011.
Cwmni Boomerang+ oedd yn gyfrifol am gynhyrchu’r ffilm, Ble mae Cyw?, ac mae’n cyfuno animeiddio CGI gyda digwyddiadau byw. Dyma’r tro cyntaf hefyd i blant gyfarfod cymeriad direidus ond hoffus newydd, Rapsgaliwn - rapiwr gorau’r byd - sydd bellach wedi cael cyfres i’w hun yn ystod arlwy Cyw.
Mae Cyw yn cael ei ddarlledu ar draws y Deyrnas Unedig ers lansio’r gwasanaeth ym Mehefin 2008, rhwng 07:00 – 13:25 ar S4C ac 07:00 – 09:00 ar benwythnosau. Yn ogystal â’r arlwy teledu, mae ap arbennig i ddyfeisiau symudol a gwefan ddwyieithog 3D – s4c.co.uk/cyw – yn llawn gemau, gweithgareddau a gwybodaeth ar gyfer rhieni.
Dros y flwyddyn ddiwethaf yn unig, mae Cyw wedi derbyn cydnabyddiaeth ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Derbyniodd y gyfres ddogfen i blant, Y Diwrnod Mawr, enwebiadau Rose d’Or a BAFTA Plant Prydain yn ddiweddar. Hefyd, cafodd Cyw enwebiad yn y categori Sianel y Flwyddyn yng ngwobrau BAFTA Plant Prydain.
Meddai Siân Eirian, Pennaeth Gwasanaethau Plant S4C, “Mae enwebiad KidScreen yn gydnabyddiaeth ryngwladol o’r hyn mae S4C a chynhyrchwyr annibynnol yng Nghymru yn cyflawni. Mae’n fraint anhygoel i dderbyn enwebiad ochr-yn-ochr â chynyrchiadau ym maes plant o bedwar ban byd ac mae’n adlewyrchu ein hymrwymiad i ddarlledu rhaglenni plant o’r safon uchaf.
“Mae Cyw wedi mwynhau blwyddyn i’w gofio – ymestyn yr arlwy i benwythnosau, lansio ‘ap’ Cyw, croesawu cyflwynwyr a chyfresi newydd ac enwebiad Sianel y Flwyddyn am yr ail flwyddyn yn olynol.”
Bydd cyfle arall i fwynhau’r ffilm dros y Nadolig pan fydd Ble Mae Cyw? yn cael ei hail-ddarlledu ar 20 Rhagfyr am 08:25.
Bydd Seremoni Gwobrwyo KidScreen yn cymryd lle ar Ddydd Iau 17 Chwefror yn Efrog Newydd.
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?