Bydd S4C yn cynnal digwyddiad arbennig ym mis Ionawr i drafod datblygiadau yn y byd Cyfryngau Newydd. Yn ei adroddiad diweddar i’r Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan (DCMS) cyhoeddodd y Sianel ei bod am roi pwyslais mawr ar arloesi ym maes gwasanaethau newydd.
Mi fydd cyfle i hyd at 50 o bobol gyfrannu i’r drafodaeth yn y cyfarfod yng Nghanolfan Gynadleddau MedRus ar Gampws Penglais, Prifysgol Aberystwyth ddydd Iau 13 Ionawr, 2011 o 10.00 o’r gloch y bore.
Y bwriad ar ôl y digwyddiad fydd creu Fforwm a fydd yn cynnig syniadau i S4C fel bo’r angen wrth i’r Sianel ddatblygu ei strategaeth ym maes Cyfryngau Newydd.
Meddai Dyfrig Jones, aelod o Awdurdod S4C, “"Mae'r cyfnod lle mae modd i ni sôn am gyfryngau 'newydd' yn prysur ddod i ben. Mae technoleg ryngweithiol yn rhan annatod o fywyd bob dydd miloedd o bobl erbyn hyn. Nod y fforwm yma ydi edrych ar sut y gall S4C gyfrannu at dwf technoleg newydd drwy gyfrwng y Gymraeg a cheisio llunio strategaeth a fydd yn ein llywio drwy'r blynyddoedd cyffrous o'n blaenau."
Mae modd i bobol wneud cais i gofrestru drwy ymweld â s4c.co.uk/fforwmcn a llenwi ffurflen ar-lein cyn 28 Rhagfyr 2010.
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?