Bydd gwasanaeth telewerthu yn dechrau ar ôl i raglenni S4C orffen yng nghanol nos o nos Wener 4 Chwefror ymlaen ac eithrio’r nosweithiau pan mae’r Sianel yn darlledu sesiynau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Bydd y telewerthu yn cael ei ddarlledu o nos Wener i nos Lun yn ystod yr wythnosau pan mae’r Cynulliad yn cwrdd a thrwy’r wythnos pan fo’r Cynulliad yn cymryd egwyl.
Meddai Elin Morris, Cyfarwyddwr Polisi Corfforaethol a Masnachol S4C, “Mae’n ddyletswydd ar S4C ddenu incwm mewn gwahanol ffyrdd er mwyn diogelu’r gwasanaeth craidd i’n gwylwyr. Bydd y gwasanaeth telewerthu yn ymddangos ar ôl i wasanaeth S4C gau am y nos.”
Diwedd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?