18 Ionawr 2011
Mae’r rhestr o’r corau sydd wedi llwyddo i gyrraedd rownd gynderfynol cystadleuaeth Côr Cymru 2011 S4C wedi ei gyhoeddi. Bydd y rowndiau cynderfynol yn cael eu cynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, ar benwythnos 4 i 6 Mawrth, 2011. Bydd uchafbwyntiau’r cystadlu i’w gweld ar S4C ar y penwythnos canlynol, 12 a 13 Mawrth.
Yn cystadlu yng nghategori'r Corau Plant bydd Côr y Cwm, Rhondda; Côr Iau Glanaethwy; Côr Ieuenctid Môn; a chôr Ysgol Gerdd Ceredigion, o Gastell Newydd Emlyn.
Aelwyd y Waun Ddyfal, o Gaerdydd; Côr Hŷn Glanaethwy; Côr y Drindod Dewi Sant ac Ysgol Gerdd Ceredigion fydd yn cystadlu yn adran y Corau Ieuenctid.
Y Corau Merched fydd Cantata, Llanelli; Côr Ysgol Lewis i Ferched, Ystrad Mynach; Parti Llwchwr a Chôr Ieuenctid Canol Powys, Llandrindod. Yn y categori Corau Meibion bydd Bechgyn Bro Taf yn cystadlu yn erbyn Eschoir o Lundain, Ysgol Gerdd Ceredigion a Côr Meibion Rhos, Rhosllannerchrugog.
Yn cystadlu yn y categori Corau Cymysg bydd ABC, Aberystwyth; CF1, Caerdydd; Côr Rhuthun a Cywair, o Gastell Newydd Emlyn.
Mae tocynnau ar gyfer y bum rownd gynderfynol ar gael yn rhad ac am ddim gan gwmni Rondo, un ai trwy ffonio 029 2022 3456 neu e-bostio corcymru@rondomedia.co.uk.
Bydd y Corau Ieuenctid yn cystadlu ar nos Wener 4 Mawrth am 20:00. Ar ddydd Sadwrn 5 Mawrth bydd y Corau Plant yn cystadlu am 14:00 a’r Corau Meibion gyda’r nos am 20:00. Am 14:00 ar ddydd Sul 6 Mawrth bydd y Corau Cymysg yn cystadlu ac yn cloi’r rowndiau cynderfynol am 20:00 bydd y Corau Merched.
Meddai’r cynhyrchydd Gwawr Owen o gwmni Rondo Media, “Mae penwythnos y rowndiau cynderfynol yn achlysur arbennig iawn bob tro. Mae Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth yn llwyfan ardderchog ar gyfer y corau, a’r awyrgylch yn drydanol.
“Mae mantais arall o fynychu’r rowndiau cynderfynol, gan y bydd y rhai sydd wedi bod yno yn cael blaenoriaeth wrth ymgeisio am docynnau i’r rownd derfynol ar 10 Ebrill.”
Bydd yr enillwyr ym mhob un o’r categorïau yn cael gwobr o £1,500 ac yn mynd ymlaen i gystadlu yn erbyn ei gilydd ar gyfer teitl Côr Cymru 2011 a gwobr ychwanegol o £5,000. Bydd y rownd derfynol yn cael i gynnal ar ddydd Sul 10 Ebrill, yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Bydd y rownd derfynol yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C.
Dyma’r pumed tro i S4C gynnal cystadleuaeth Côr Cymru a'r enillwyr blaenorol yw Côr Plant Ysgol Gerdd Ceredigion (2009), Côr Cywair o Gastell Newydd Emlyn (2007), Serendipity o Gaerdydd (2005) ac Ysgol Gerdd Ceredigion (2003).
Mae rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth ar wefan Côr Cymru 2011, s4c.co.uk/corcymru
Diwedd