21 Chwefror 2011
Mae'r wyth cân fydd yn brwydro am deitl cystadleuaeth cyfansoddi Cân i Gymru 2011 wedi’u dewis a bydd yr wyth yn cael eu perfformio’n fyw ar S4C o Bafiliwn Pontrhydfendigaid.
Elin Fflur, cyn-enillydd y gystadleuaeth yn 2002 gyda'r gân eiconig 'Harbwr Diogel' a chyn aelod o’r rheithgor, yw cyflwynydd newydd y rownd derfynol byw, a ddarlledir ar Nos Sul, 6 Mawrth.
Am y tro cyntaf erioed, bydd cân beatbocsio o'r enw 'Chwarae Ceg' ymhlith rhestr fer y gystadleuaeth. Ed Holden, gynt o’r Genod Droog, sydd wedi cyfansoddi a pherfformio’r gân.
Bydd y canwr a’r gitarydd Gai Toms yn gobeithio gwella ar ail safle llynedd gyda'i gân 'Clywch'. Daeth ei gyfansoddiad ‘Deffra’ o drwch blewyn i ennill y gystadleuaeth yn 2010.
Mae Steve Balsamo yn fwy adnabyddus am ei rôl yng nghynhyrchiad ‘Jesus Christ Superstar’ yn Llundain. Daeth yn ail yn y gystadleuaeth cyfansoddi yn 1994, ond y tro hwn mae wedi ysgrifennu ‘Rhywun yn Rhywle' ar y cyd â chanwr Brigyn, Ynyr Gruffydd Roberts.
Stori am enedigaeth plentyn yw 'Fy Mhlentyn i'. Mae’r gân wedi’i hysgrifennu ar y cyd gan Ann Llwyd a Steve Pablo a merch Ann, Alys Williams, fydd yn perfformio'r gân yn ystod y rownd derfynol byw.
Cafodd drymiwr Yr Ods, Osian Rhys Roberts, ei hysbrydoli gan Osian Howells - sydd hefyd yn y band - ar ôl iddo gystadlu yn 2010. 'Cofia am y Cariad' yw ymgais Osian a fydd yn cael ei berfformio gan Ffion Emyr.
Mae Dafydd Saer wedi cyrraedd rownd derfynol Cân i Gymru ar bum achlysur - ac eleni, mae’n ôl gyda chyfansoddiad gwreiddiol arall. Cafodd 'Cylch o Gariad' ei ysgrifennu wrth i Dafydd deithio Ewrop.
Y ddau o Fôn, Meilyr Wyn a Derwyn Jones, yw cyd-gyfansoddwyr 'Nerth dy Draed'. Dyma ymddangosiad cyntaf Derwyn yn y gystadleuaeth ochr yn ochr â phrofiad Meilyr.
I gwblhau rhestr fer 2011, bydd Ifan Emyr yn gobeithio efelychu llwyddiant ei fam yn y gystadleuaeth gyda’r gân 'Symud Ymlaen'. Enillodd Mari Emlyn deitl Cân i Gymru yn 1986.
Bydd yr wyth cân yn brwydro am y brif wobr ariannol o £7,500, yn ogystal â’r fraint o gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon. Rheithgor o arbenigwyr Cân i Gymru oedd yn gyfrifol am ddewis y rhestr fer, gan gynnwys gitarydd a prif leisiwr Sibrydion, Meilir Gwynedd; Cleif Harpwood o fand eiconig y 70au Edward H. Dafis, y canwr gwerin amryddawn, Siân James a Catrin Southall, prif leisydd y band Sal.
Mae’r nifer uchaf erioed o geisiadau wedi'u cofnodi ar gyfer y gystadleuaeth eleni gan amrywio o artistiaid a bandiau Cymraeg adnabyddus i bobl ifanc newydd i’r sîn.
Y cerddor Alun Tan Lan oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth flwyddyn ddiwethaf gyda’r gân ‘Bws i’r Lleuad’. Tomos Wyn, sydd bellach wedi ymuno â chast Rownd a Rownd ar S4C, oedd yn perfformio.
Am fwy o wybodaeth, ewch i'r wefan: s4c.co.uk/canigymru
Diwedd